I gael copi ardystiedig o dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas lle cynhaliwyd y digwyddiad yn ardal Casnewydd, gwnewch gais i Swyddfa Gofrestru Casnewydd.
Gwnewch gais yn bersonol neu drwy lawrlwytho'r ffurflen gais berthnasol:
Cais am gopi o Dystysgrif Geni (pdf)
Cais am gopi o Dystysgrif Priodas (pdf)
Cais am gopi o Dystysgrif Marwolaeth (pdf)
Gwasanaeth Blaenoriaethol
Yn bersonol: Mae tystysgrifau'n costio £38.50 yr un wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe'u cyhoeddir yr un diwrnod pan dderbynnir y cais cyn 3pm.
Gellir cael tystysgrifau drwy ymweld â'n swyddfa ar ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau neu ddydd Gwener rhwng 9am a 3pm ac ar ddydd Mawrth rhwng 9.30am a 3pm, llenwi ffurflen gais ac aros i'r dystysgrif gael ei rhoi.
Os nad ydych yn gallu aros am y dystysgrif, gallwn ei phostio atoch am ffi ychwanegol o £3 fesul amlen -gellir postio hyd at bum tystysgrif mewn un amlen - a byddwn yn ei hanfon drwy bost dosbarth cyntaf llofnodedig unwaith y bydd y cofnod wedi'i ganfod a'i wirio.
Sylwch fod ceisiadau'n cael eu trin ar sail y cyntaf i'r felin, a gall amseroedd aros fod yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.
E-bost a ffôn: Mae tystysgrifau'n costio £38.50 yr un wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe'u cyhoeddir yr un diwrnod pan dderbynnir y cais cyn 3pm.
Llenwch y ffurflen berthnasol uchod a'i e-bostio i [email protected] neu ffoniwch ni ar (01633) 1839790, Opsiwn 5.
Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd taliad pan fydd y dystysgrif yn barod a gallwch naill ai alw i mewn i'r Swyddfa i gasglu eich tystysgrif neu dalu ffi ychwanegol o £3 fesul amlen - gellir postio hyd at bum tystysgrif mewn un amlen-a byddwn yn ei hanfon drwy bost dosbarth cyntaf llofnodedig.
Gwasanaeth arferol
Yn bersonol: tystysgrifau'n costio £12.50 yr un wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe'u rhoddir o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais ysgrifenedig.
Gallwch wneud cais am y gwasanaeth hwn drwy ymweld â'n swyddfa ar ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau neu ddydd Gwener rhwng 9am a 3pm ac ar ddydd Mawrth rhwng 9.30am 3pm, gan lenwi ffurflen gais a'i gadael gyda ni.
Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd taliad pan fydd y dystysgrif yn barod.
Gallwch naill ai alw i mewn i'r Swyddfa i gasglu eich tystysgrif y diwrnod hwnnw neu dalu ffi ychwanegol o £3 fesul amlen - gellir postio hyd at bum tystysgrif mewn un amlen-a byddwn yn ei hanfon drwy bost dosbarth cyntaf llofnodedig.
E-bost: tystysgrifau'n costio £12.50 yr un am y gwasanaeth hwn ac fe'u rhoddir o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais ysgrifenedig.
Llenwch y ffurflen berthnasol uchod a'i e-bostio i [email protected], Nid ydym yn cymryd archebion dros y ffôn ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Byddwn yn cysylltu â chi i gymryd taliad pan fydd y dystysgrif yn barod.
Gallwch naill ai alw i mewn i'r Swyddfa i gasglu eich tystysgrif y diwrnod hwnnw neu dalu ffi ychwanegol o £3 fesul amlen - gellir postio hyd at bum tystysgrif mewn un amlen - a byddant yn cael eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf llofnodedig.
Rhyngwladol
1. Gwasanaeth Blaenoriaeth: Mae tystysgrifau'n costio £38.50 yr un wrth ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe'u cyhoeddir yr un diwrnod pan dderbynnir y cais cyn 3pm.
Llenwch y ffurflen berthnasol uchod a'i e-bostio i [email protected].
Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd y dystysgrif yn barod ac yn gofyn i chi ein ffonio i wneud taliad - ni allwn wneud galwadau rhyngwladol.
Yna caiff y dystysgrif ei phostio atoch chi am y ffi ychwanegol isod.
2. Gwasanaeth safonol: tystysgrifau'n costio £12.50 yr un ac fe'u rhoddir o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cais ysgrifenedig.
Llenwch y ffurflen berthnasol uchod a'i e-bostio i [email protected].
Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd y dystysgrif yn barod ac yn gofyn i chi ein ffonio i wneud taliad - ni allwn wneud galwadau rhyngwladol.
Yna caiff y dystysgrif ei phostio atoch chi am ffi ychwanegol o £10 fesul amlen - gellir anfon hyd at bum tystysgrif mewn un amlen - sy'n cael eu hanfon drwy bost awyr wedi’i dracio a llofnodedig.
Ffioedd
Darllenwch ragor am ffioedd gwasanaeth cofrestru.
Cysylltu
Manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa Gofrestru Casnewydd
TRA122666 27/07/2020