Y cam cyntaf wrth ymchwilio i hanes eich teulu yw siarad â'ch perthnasau, gan gasglu enwau, oedrannau, cyfeiriadau a galwedigaethau ynghyd i baratoi coeden deulu ragarweiniol.
Dylai hyn helpu i gael trefn ar y dyddiadau pan aned pobl, pan briodasant neu pan fuont farw. Arferai rhai teuluoedd gadw cofnodion mewn Beiblau teuluol a gallai eraill fod wedi cadw tystysgrifau neu dorri cofnodion o bapurau newyddion.
I gadarnhau eich ymchwil, dylech gael copïau ardystiedig o gofnodion cofrestrau.
Tystysgrif geni
Bydd tystysgrif geni yn dangos:
- Enw'r plentyn
- Dyddiad a man geni
- Enw a chyfenw'r tad
- Enw a chyfenw'r fam, a'i henw cyn priodi
- Galwedigaeth y tad
- Enw'r rhiant, gan gynnwys enw'r fam cyn priodi, os yw'n briod
Tystysgrif priodas
Yna, gallwch geisio olrhain tystysgrif priodas y rhieni, a fydd yn dangos:
- Ymhle'r oeddent yn byw adeg eu priodas
- Eu henwau llawn
- Eu hoedrannau
- Eu galwedigaethau
- Enwau a galwedigaethau tadau'r ddau.
Tystysgrif marwolaeth
Bydd tystysgrif marwolaeth yn dangos:
- Enw'r ymadawedig
- Lle y bu farw
- Ei oedran adeg marw
- Achos y farwolaeth
- Galwedigaeth
- Enw a chyfeiriad y sawl sy'n ei gofrestru
- Dyddiad cofrestru
Mae cofnodion presennol (ers 1969) yn dangos enwau menywod cyn priodi.
Dod o hyd i gofnodion
Cedwir cofrestrau yn y Swyddfa Gofrestru ar gyfer pob ardal. Ewch i Gov.UK am restr o Swyddfeydd Cofrestru dynodedig yng Nghymru a Lloegr.
Os nad ydych yn siwr am union ddyddiad, bydd Swyddfa Gofrestru Casnewydd yn chwilio blwyddyn cyn ac ar ôl dyddiad penodol, yn rhad ac am ddim.
Tystysgrifau
Os bu'r digwyddiad yn ardal Casnewydd, gallwch wneud cais am dystysgrifau drwy'r post, yn bersonol neu drwy anfon e-bost at [email protected]
For a fee of £3 we will post the certificates by first-class signed for delivery.
Darllenwch am ffioedd chwilio a thystysgrifau.
Os ydych yn gwneud cais am dystysgrif geni, dylech ddarparu:
- Enw adeg genedigaeth
- Dyddiad geni
- Enwau'r rhieni yn llawn, gan gynnwys enw'r fam cyn priodi
- Ble digwyddodd yr enedigaeth
Os ydych yn gwneud cais am dystysgrif marwolaeth, dylech ddarparu:
- Enw'r ymadawedig
- Dyddiad marw
- Lle y bu farw
- Ac unrhyw wybodaeth arall berthnasol er mwyn i ni allu olrhain y cofnod
Os ydych yn gwneud cais am dystysgrif priodas, dylech ddarparu:
- Enw'r priodfab
- Enw'r briodferch
- Dyddiad y briodas
- Lleoliad y briodas – h.y. eglwys neu adeilad cofrestredig
- Enwau'r tadau os yw'n bosibl, i gadarnhau'r cofnod cywir
Os nad ydych yn gwybod ymhle bu'r digwyddiad, holwch y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO), sy'n cadw cofnodion geni, mabwysiadu, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i 1837.
Gwybodaeth arall
Cysylltwch â'r Llyfrgell Casnewydd i ofyn am adnoddau ymchwil i hanes y teulu.
Mae Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwent yn ddefnyddiol os ydych chi'n chwilio yn ardaloedd Gwent a Sir Fynwy.
Adroddiadau'r cyfrifiad
Mae adroddiadau'r Cyfrifiad yn rhoi manylion y bobl a oedd yn byw mewn aelwyd ar adeg y cyfrifiad.
Mae'r adroddiadau diweddaraf a gyhoeddwyd ar y Cyfrifiad yn rhai ar gyfer 1911; maent ar gael ar wefan Cyfrifiad 1911.
Yn achos digwyddiadau yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban neu Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Gogledd Iwerddon.
Find My Past: mynegeion ar gyfer genedigaethau, priodasau a marwolaethau o 1837 ymlaen
Free BMD: prosiect gwirfoddol, mae mynegeion yn dechrau o 1837
Ancestry UK: archif o gofnodion o Gymru, Lloegr, Iwerddon a'r Alban, gan gynnwys mynegeion y Swyddfeydd Cofrestru Cyffredinol
Archifau Lincoln
Gwefan GENUKI: gwybodaeth achyddol ar gyfer y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
Gwefan Family History UK: dolenni i safleoedd eraill ynghyd â gwybodaeth
Gwefan Family Search: safle Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf, sef y Mormoniaid, sy'n cynnwys gwybodaeth achyddol
Digwyddiadau cyn 1837
Y prif ffynonellau gwybodaeth cyn cofrestru sifil ym 1837 yw cofrestrau'r plwyf a chofnodion crefyddau eraill. Rhowch gynnig ar y canlynol:
Gwefan Family Records
Cymdeithas yr Achyddion.