Priodi mewn eglwys
Os ydych chi'n bwriadu priodi mewn eglwys neu adeilad crefyddol arall, mae'n rhaid i chi gael caniatâd y gweinidog neu'r corff llywodraethu cyn gwneud unrhyw drefniadau eraill.
Eglwys Loegr neu'r Eglwys yng Nghymru
Yn gyffredinol, gallwch briodi yn un o eglwysi Eglwys Loegr neu'r Eglwys yng Nghymru dim ond os ydych chi neu eich partner yn byw yn y plwyf.
Dylech drefnu siarad â'r ficer ac, os bydd yn gallu eich priodi chi, bydd yn trefnu cyhoeddi'r gostegion ar dri dydd Sul cyn diwrnod eich seremoni neu'n trefnu bod trwydded gyffredin yn cael ei chyhoeddi.
Ni fydd angen cynnwys y cofrestrydd arolygol yn y broses hon, fel arfer.
Adeiladau crefyddol eraill
Os byddwch yn priodi mewn eglwys neu adeilad crefyddol arall, bydd angen i chi roi hysbysiad o'r briodas i gofrestrydd arolygol yr ardal lle'r ydych yn byw.
Mae rhai eglwysi (er nad yr Eglwys yng Nghymru nac Eglwys Loegr) yn mynnu bod cofrestrydd yn bresennol mewn priodas, tra bydd gan rai eglwysi eu cofrestrydd eu hunain (unigolyn awdurdodedig).
Os bydd angen i gofrestrydd o'r Swyddfa Gofrestru fod yn bresennol yn eich priodas, dylech drefnu hyn gyda Swyddfa Gofrestru Casnewydd cyn belled o flaen llaw â phosibl.