Cam 1: Pa fath o seremoni?
Eich penderfyniad cyntaf yw a ydych yn dymuno cael seremoni grefyddol neu sifil.
Seremonïau crefyddol
Os ydych yn bwriadu priodi yn eich eglwys blwyf (h.y. yr Eglwys yng Nghymru), dylech gysylltu â’r ficer i gael gwybodaeth.
Ar gyfer unrhyw adeilad crefyddol arall, cysylltwch â ni yn ogystal â’ch Gweinidog.
Seremonïau sifil
Yng Nghasnewydd mae amrywiaeth o leoliadau priodas trwyddedig hardd ar gael i chi.
Mae’r Ystafell Linscombe yn Y Plasty
Fel arall, efallai y byddwch am i ni helpu i ddylunio pecyn priodas pwrpasol i chi, gyda’r seremoni gyfreithiol yn digwydd mewn ystafell drwyddedig ac ail seremoni (adnewyddu addewidion) yn cael ei pherfformio mewn lleoliad arall yng Nghasnewydd.
Mae’r Garden Room yn Y Plasty
Os ydych yn byw yng Nghasnewydd bydd angen i chi roi eich hysbysiad cyfreithiol i ni. Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi i drafod ymhellach a threfnu eich apwyntiad.
>>Nesaf: Cam 2: Costau
<< Yn ôl i: Priodas a Phartneriaeth Sifil