Cam 5: Dewisiadau seremonïau
Y pethau cyfreithiol ...
Mae rhai geiriau cyfreithiol y mae'n rhaid i chi eu dweud a bydd angen dau dyst dros 16 oed yn bresennol yn y seremoni.
Chi sydd i benderfynu ar y gweddill...
Rydym yn haeddiannol falch o'r croeso cynnes a'r gwasanaeth proffesiynol rydyn ni’n eu rhoi.
Bydd ein staff profiadol yn gallu eich arwain a chewch ddigon o gyfle i roi gwedd bersonol ar eich seremoni.
Gallwch ddewis o'n hystod o lwon personol neu efallai yr hoffech ysgrifennu eich llwon eich hun - os gwnewch hynny, bydd angen i ni eu cymeradwyo ymlaen llaw.
Ffordd hyfryd o gyfoethogi eich seremoni yw gwahodd ffrind neu aelod o'r teulu i ddarllen - gallai hyn fod yn gerdd, yn eiriau cân neu’n ddyfyniad o lyfr sy'n golygu rhywbeth i chi. Mae gennym lawer o opsiynau i chi eu hystyried os nad ydych yn siŵr beth i'w ddewis.
Gallwn ddarparu cerddoriaeth, neu mae'n well gan rai cyplau ddod â'u cerddoriaeth eu hunain.
Sylwer na ellir cael unrhyw gyfeiriadau crefyddol yn y darlleniadau na’r gerddoriaeth.
Yn y Plasty, darperir arddangosiadau blodau yn ein hystafelloedd seremonïau ond gallwch ddarparu eich blodau eich hun os dymunwch.
Mae gan ein gardd brydferth fainc gerrig sy'n fan delfrydol i dynnu lluniau.
Erbyn hyn mae'n bosib cynnal seremoni yn ystod yr wythnos ar y lawnt, yn dibynnu ar yr amser ac yn amodol ar archebu o flaen llaw.
Cofiwch ofalu am ein hamgylchedd a defnyddio conffeti bioddiraddadwy yn y tiroedd.