Cofrestru partneriaeth sifil
Rhaid cwblhau camau rhagarweiniol sifil cyn pob partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr a rhaid eu cynnal mewn swyddfa gofrestru neu safle sydd wedi'i gymeradwyo.
Cysylltwch â'r swyddfa gofrestru yn y man lle'r ydych am gofrestru eich partneriaeth i wneud trefniadau.
Yna, rhaid i'r ddau barti roi hysbysiad cyfreithiol yn swyddfa gofrestru'r ardal lle maen nhw'n byw.
Bydd cyfnod aros o 28 niwrnod clir cyn i'r bartneriaeth sifil allu cael ei ffurfio.
Bydd partneriaeth sifil wedi'i ffurfio pan fydd y cwpl wedi llofnodi'r rhestr gofrestru gerbron swyddog cofrestru a dau dyst.
Nid oes rhaid cynnal seremoni fel rhan o'r broses gyfreithiol, ond yng Nghasnewydd, rydym yn cynnig dewis o seremonïau i helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig.