Cofrestru marwolaeth

Pan fydd rhywun yn marw, rhaid i'r farwolaeth gael ei chofrestru gan y Cofrestrydd ar gyfer yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth.

 9 Medi 2024ni ellir cofrestru marwolaeth nes bod yr Archwiliwr Meddygol (DM) wedi anfon y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth (MCCD) i'r Swyddfa Gofrestru lle digwyddodd y farwolaeth, oni bai bod amgylchiadau eithriadol neu os yw'r Crwner yn gysylltiedig. Bydd yr Archwiliwr Meddygol yn rhoi gwybod i'r perthynas agosaf pryd anfonir y gwaith papur at y Cofrestrydd. Yna dylid cofrestru'r farwolaeth o fewn 5 diwrnod ar ôl i'r Cofrestrydd dderbyn y MCCD.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses MCCD neu ME:

Cewch ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol ar wefan y GIG

I gysylltu e-bostiwch [email protected] neu ffôn: 02921 500799

Crwner

Mewn rhai amgylchiadau, bydd marwolaeth yn cael ei chyfeirio at y Crwner. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd Swyddog y Crwner yn cysylltu â'r perthynas agosaf a fydd yn esbonio'r broses. Os gellir cofrestru'r farwolaeth heb gwêst, bydd y Crwner yn anfon y gwaith papur perthnasol at y Cofrestrydd. Dylai'r farwolaeth gael ei chofrestru o fewn 5 diwrnod o dderbyn gwaith papur y Crwner.

I gysylltu â Gwasanaeth Crwner Gwent:

E-bost: [email protected] neu Ffôn: 01633 656 656

Sut i gofrestru marwolaeth:

Os na allwch fynd i'r Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth, gallwch fynd i unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru a Lloegr i wneud datganiad o'r manylion gofynnol. Fodd bynnag, mae hyn yn achosi ychydig o oedi gan fod gwaith papur a thystysgrifau perthnasol yn cael eu cyhoeddi gan y swyddfa dderbyn a'u hanfon drwy'r post.

I wneud apwyntiad i gofrestru marwolaeth yn Swyddfa Gofrestru Casnewydd, ffoniwch 01633 839 790. Cyrhaeddwch mewn pryd ar gyfer eich apwyntiad. Dylech ganiatáu 30 munud ar gyfer y cofrestriad. Os na allwch gadw eich apwyntiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Pwy all gofrestru?

Dylai'r farwolaeth gael ei chofrestru gan berthynas neu bartner i'r ymadawedig neu rywun a oedd yn bresennol yn y farwolaeth. Mae'n bosibl i berson arall gofrestru. Gallai hyn fod yn swyddog o'r ysbyty neu gynrychiolydd personol yr ymadawedig.

Bydd angen i’r Cofrestrydd gael gwybod:

  • dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • enw llawn yr ymadawedig (a’i enw cyn priodi lle y bo’n briodol) 
  • dyddiad a lleoliad geni’r ymadawedig
  • galwedigaeth yr ymadawedig (hyd yn oed os oedd wedi ymddeol) ac enwau llawn a galwedigaeth ei ŵr/gwraig/partner sifil
  • cyfeiriad arferol yr ymadawedig 
  • p’un a oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn o arian cyhoeddus neu bensiwn gwaith
  • p’un a oedd yr ymadawedig yn derbyn unrhyw fudd-daliadau o arian cyhoeddus

Dogfennau ategol

Dewch ag o leiaf un o’r dogfennau canlynol gyda chi pan fyddwch chi’n dod i gofrestru marwolaeth.

Mae angen dogfennau ar gyfer yr ymadawedig a’r sawl sy’n rhoi gwybod am y farwolaeth i ategu’r wybodaeth a ddelir ar y gofrestr ac i helpu i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a gofnodir, a fydd yn lleihau’r angen am gywiriadau anghyfleus a chostus, o bosibl, yn y dyfodol.

Ar gyfer yr ymadawedig

  • pasbort
  • prawf cyfeiriad
  • cerdyn meddygol
  • tystysgrif geni
  • pob tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • gweithred newid enw

Ar gyfer y sawl sy’n rhoi gwybod

  • pasbort
  • trwydded yrru
  • prawf cyfeiriad, e.e. bil cyfleustodau

DS: ni fydd absenoldeb y dogfennau ategol hyn yn atal yr apwyntiad rhag cael ei drefnu – gall y Cofrestrydd gofrestru’r farwolaeth o hyd.

Claddu ac amlosgi plant

Yng Nghymru, nid yw awdurdodau lleol yn codi unrhyw ffioedd am wasanaethau claddu neu amlosgi ar gyfer plant o dan 18 oed. Hefyd, mae gan deuluoedd yng Nghymru, sydd wedi cofrestru colli plentyn o dan 18 oed, yr hawl i gael £500 fel cyfraniad tuag at gostau’r angladd a chostau perthnasol eraill.

Bydd swyddfa Cofrestrydd yr awdurdod lleol yn trafod hyn gyda theuluoedd pan fyddant yn cofrestru’r golled a gallant roi rhagor o fanylion iddynt.

Lawrlwytho claddu ac amlosgi plant (pdf)

Tystysgrifau

Ar ôl i’r farwolaeth gael ei chofrestru, gall y Cofrestrydd roi’r ddogfen ganlynol i chi yn rhad ac am ddim:

  • Tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi (a elwir yn ffurflen werdd) i chi fynd â hi at y trefnydd angladdau fel y gellir cynnal yr angladd. Os ydych eisoes yn gwybod pa drefnydd angladdau y byddwch yn ei ddefnyddio, gall y Cofrestrydd drefnu i e-bostio’r ffurflen werdd atynt ar eich rhan. Mewn rhai amgylchiadau cyhoeddir hwn gan y crwner.

Tystysgrifau marwolaeth safonol
Efallai y bydd angen i chi brynu rhai tystysgrifau marwolaeth hefyd. 

Mae tystysgrif marwolaeth yn gopi ardystiedig o’r cofnod ar y gofrestr marwolaethau a gallai fod ei hangen ar fanciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant, cyfreithwyr neu ar gyfer hawliadau pensiwn. 

Gallech ddymuno gofyn am sawl tystysgrif marwolaeth ar yr adeg cofrestru oherwydd bydd y pris yn cynyddu os bydd arnoch angen un yn ddiweddarach. 

Bydd y Cofrestrydd yn eich cynghori ynglŷn â pha fath a faint o dystysgrifau y gallai fod arnoch eu hangen.

Lawrlwythwch ac argraffwch ffurflen gais am Dystysgrif Marwolaeth (pdf).

Dywedwch Wrthym Unwaith

Pan fydd marwolaeth wedi cael ei chofrestru, gall y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith eich helpu i roi’r wybodaeth angenrheidiol i’r Adran Gwaith a Phensiynau, adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae gwybodaeth am fudd-daliadau, profiant a chymorth gyda chostau angladd ar gael ar y wefan Directgov