Craffu
Creodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 swyddogaethau Cabinet a Chraffu ar wahân o fewn cynghorau.
Mae craffu yn galluogi cynghorwyr nad ydynt yn dal swyddi cabinet o fewn y cyngor i chwarae rhan lawn yng ngwaith y cyngor.
Mae aelodau'r Pwyllgorau craffu yn adolygu polisïau ac yn cwestiynu penderfyniadau allweddol a wneir gan Gabinet y cyngor i sicrhau eu bod yn agored, yn atebol, yn dryloyw ac er lles gorau'r ardal leol a'i thrigolion.
Mae pwyllgorau craffu hefyd yn adolygu cyflawniadau'r cyngor yn erbyn targedau a gynlluniwyd, materion sy'n peri pryder lleol a gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor a sefydliadau cyhoeddus eraill.
Mae'n hanfodol bod pobl leol, rhanddeiliaid a sefydliadau perthnasol ynghlwm wrth yr adolygiadau hyn.
Mae’r Ganolfan er Craffu Cyhoeddus yn nodi pedair egwyddor sylfaenol ar gyfer craffu cyhoeddus effeithiol:
- mae'n cynnig her 'cyfaill beirniadol' i bobl sy’n creu polisïau ac yn gwneud penderfyniadau
- mae’n galluogi’r cyhoedd i leisio eu barn a’u pryderon
- mae’n cael ei wneud gan 'lywodraethwyr annibynnol eu meddwl' sy'n arwain ac yn perchenogi’r rôl graffu
- mae'n sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus
Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu eich barn ar bynciau y mae Craffu yn eu hystyried ac awgrymiadau ynghylch unrhyw faterion y credwch y dylem fod yn ymchwilio iddynt.
Anfonwch e-bost at [email protected] neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm craffu i gael gwybod mwy.