Rhyddid gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn caniatáu i unrhyw unigolyn wneud cais am wybodaeth gofnodedig sy'n cael ei dal gan y cyngor a chael gwybod, o fewn 20 niwrnod gwaith fel arfer, p'un a yw'r cyngor yn dal y wybodaeth honno.

Os yw'r cyngor yn dal y wybodaeth, yn ôl y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r cyngor ddarparu copïau ohoni i'r sawl sy'n gofyn amdani, neu esbonio pam mae'r wybodaeth wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu.

Mae gan y cyngor yr hawl i godi tâl am gost llungopïo dogfennau a phostio, ond nid am amser staff sy'n cael ei dreulio'n ateb y cais.

Nid yw'n ofynnol i'r cyngor ddarparu gwybodaeth pe byddai cost y cais dros £450, sy'n gyfwerth â 18 awr o waith, felly gallai fod angen addasu ceisiadau fel eu bod o fewn y cyfyngiadau hyn.

Mae'r cyngor yn mynd ati'n rhagweithiol i gyhoeddi gwybodaeth fel rhan o'i ymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw.

Gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth

Gellir anfon ceisiadau drwy'r post at:

Y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, De Cymru NP20 4UR

Chwilio a lawrlwytho dogfennau

Mae'r cyngor wedi mabwysiadu'r Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth (pdf) model, sydd wedi'i baratoi a'i gymeradwyo gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, heb ei ddiwygio.

Gall unrhyw ymholiadau ynglŷn â chais gael eu hanfon drwy'r e-bost neu eu postio i'r cyfeiriad uchod, neu drwy gysylltu â'r cyngor.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am faterion Rhyddid Gwybodaeth a materion cysylltiedig eraill, ac mae eu gwefan yn cynnwys rhagor o gyngor a gwybodaeth.