Rhannu gwybodaeth

Mae rhannu gwybodaeth yn allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws asiantaethau.

Gall gefnogi mynediad haws a mwy effeithlon at wasanaethau yn ogystal â chynorthwyo sefydliadau i gydweithredu er mwyn cyflwyno gwasanaethau.

Gan fod risgiau'n gysylltiedig â rhannu gwybodaeth hefyd, mae'n hanfodol bod y broses rannu'n cyd-fynd â deddfwriaeth ac arfer gorau, a'i bod yn sicrhau bod preifatrwydd yn cael ei gynnal lle y bo'n briodol.

WASPI

Ym mis Ionawr 2011, fel rhan o ymrwymiad Cyngor Dinas Casnewydd i rannu gwybodaeth, fe wnaeth lofnodi Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI), sydd wedi'i gymeradwyo gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Trwy lofnodi'r Cytundeb, mae'r cyngor wedi cytuno i:

  • Weithio yn ôl dull cyffredin i rannu gwybodaeth bersonol â sefydliadau cyhoeddus eraill a sefydliadau eraill y sector gwirfoddol
  • Datblygu cytundebau rhannu gwybodaeth lleol ategol gyda sefydliadau partner y rhennir gwybodaeth â nhw'n rheolaidd, gan ddefnyddio templedi ac arweiniad WASPI
  • Cynyddu ymwybyddiaeth staff o gyfrifoldebau yn ymwneud â rhannu gwybodaeth

Ewch i wefan WASPI i gael rhagor o wybodaeth.

Mae polisi'r cyngor ar Rannu Gwybodaeth yn rhoi gwybod i weithwyr, aelodau a phartïon eraill sy'n mynd at gofnodion a'u cynnal ar ran y cyngor am eu cyfrifoldebau, ac mae'n rhoi arweiniad ar rannu gwybodaeth.

Protocolau Rhannu Gwybodaeth

Mae nifer o brotocolau rhannu gwybodaeth (ISPs) wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio canllawiau WASPI; gweler gwefan WASPI am ragor o wybodaeth. 

Cysylltwch â hwyluswyr cymeradwy WASPI ar gyfer protocolau rhannu gwybodaeth trwy anfon e-bost at [email protected]