Rheolau Mewnol o ran Cyfryngau Cymdeithasol

Yng Nghyngor Dinas Casnewydd rydym yn credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhan bwysig o ran sut mae pobl yn byw eu bywydau. Rydym yn hyblyg ac yn newid yn barhaus sut rydym yn gwella'r ffordd rydym yn gweithio.  Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn agored. Mae gennym set o reolau mewnol ar sut yr ydym ni’n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a sut rydym yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio hefyd.

 

Yr hyn y byddwn yn ei wneud...  

  • Byddwn yn cadarnhau mai ni ydyw.
  • Os ydych chi'n gweld cyfrif Cyngor Dinas Casnewydd ar-lein, gallwch wirio mai ni sy'n gyfrifol am hynny.
  • Byddwn yn rhestru ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar ein gwefan.
  • Byddwn yn gwrando.
  • Byddwn yn darllen pob neges ac yn edrych at hysbysu rhannau mwyaf perthnasol y sefydliad o ran unrhyw broblem sy’n codi.
  • Rydym yn awyddus i glywed gennych. 
  • Byddwn yn dweud pryd y byddwn yn monitro pob cyfrif.
  • Ni fyddwn ar-lein 24 awr y dydd.  Ond byddwn yn dweud pryd y byddwn ar-lein ar bob cyfrif cyfryngau cymdeithasol rydym yn eu defnyddio.
  • Byddwn yn ddynol ac yn gwrtais.
  • Byddwn yn trin pob neges gyda'r un cwrteisi y byddech yn ei ddisgwyl pe byddech yn delio â ni wyneb yn wyneb neu ar y ffôn.
  • Byddwn ni'n dilyn pobl lle gallwn ni.  Ond nid yw hyn yn golygu cymeradwyaeth.

 

Yr hyn yr hoffem i chi ei wneud yn gyfnewid...

  • Hoffem i chi fod yn gwrtais.  Rydym yn gwybod nad yw pethau'n mynd yn ôl y bwriad weithiau a byddwch chi am dynnu sylw at bethau. Ond cofiwch, dim ond dynol ydyn ni a dim ond ceisio helpu y mae'r person sy'n monitro'r cyfrif cyfryngau cymdeithasol yn ceisio helpu. Felly hefyd pobl eraill sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Hoffem i chi beidio bod yn wrthgymdeithasol.
  • Fyddwn ni ddim yn goddef rhegi, bygythiadau na cham-drin ar-lein yn union fel nad ydyn ni'n all-lein.
  • Ni fyddwn yn delio â'ch ymholiad ar y cyfryngau cymdeithasol.  Byddwn yn eich cyfeirio at sianeli eraill yn lle.
  • Hoffem i chi beidio bod yn bersonol.  Os oes gennych chi gŵyn i'w wneud yn erbyn unigolyn, byddwn yn edrych i mewn iddo.  Byddwn yn eich pwyntio tuag at ein tudalen gwynion.
  • Hoffem i chi beidio â danfon negeseuon sbam na hysbysebu. Nid ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yw'r lle i ddilynwyr hysbysebu.   Nid yw gwneud yr un pwyntiau drosodd a throsodd - sy'n cael ei adnabod fel arall yn sbamio - yn addas ar gyfer ein cyfryngau cymdeithasol. Bydd yn well i chi wneud cwyn neu gysylltu â ni mewn ffordd arall fel y gallwn ymchwilio i'r mater ar eich rhan.
  • Hoffem i chi beidio â gor-rannu.   Os oes gennych broblem byddwn yn hapus i ymchwilio iddo. Ond byddwch yn ofalus i beidio â phostio gwybodaeth breifat amdanoch chi'ch hun neu eraill. 
  • Wrth gwrs, y rhan fwyaf o'r amser mae cyfryngau cymdeithasol yn gweithio'n iawn ond ar yr achlysur prin lle nad ydych yn cadw at y rheolau mewnol, rydym yn cadw'r hawl i ddileu cynnwys tramgwyddus a'ch rhwystro rhag cysylltu â ni trwy'r llwybr hwnnw.
  • Rydym hefyd yn cadw'r hawl i sgrinio-gipio cynnwys a chysylltu â'r heddlu.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cyfryngau cymdeithasol neu os ydych yn teimlo bod neges wedi cael ei thynnu i lawr yn annheg, danfonwch e-bost atom yn [email protected]