Mae bil llawn y dreth gyngor yn rhagdybio bod dau oedolyn (dros 18 oed) yn byw yn yr eiddo.

Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am:

  • gostyngiad o 25% os mai dim ond un oedolyn sy'n byw yn eich cartref
  • 50% os nad oes oedolion cyfrifadwy yn eich cartref

Gallwch hefyd wneud cais os oes mwy nag un oedolyn yn byw mewn eiddo, ond bod o leiaf un ohonynt yn gymwys i gael gostyngiad treth y cyngor am resymau eraill.

Gwneud cais neu wneud newid ar-lein

Cysylltwch â ni

Bydd llenwi ein ffurflen yn golygu y gallwn gyfeirio eich ymholiad at y tîm cywir a darparu ymateb yn gyflymach.

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y dreth gyngor, gwnewch yn siŵr bod eich cyfeirnod cyfrif treth gyngor wrth law cyn dechrau llenwi'r ffurflen - mae'n rhif wyth digid ac yn dechrau gyda thri digid.

Cysylltwch â ni