Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth treth gyngor ar-lein

Trwy ein gwasanaeth ar-lein, gallwch:

  • gweld eich gwybodaeth treth gyngor
  • trefnu ddebyd uniongyrchol i dalu eich treth gyngor
  • gweld taliadau sydd ar ddod a blaenorol
  • derbyn e-filio
  • dweud wrthym am newid cyfeiriad

I gael mynediad at y gwasanaeth hwn:

  • ewch i'n tudalen we gwasanaethau cyngor
  • mewngofnodwch neu cofrestrwch ar gyfer cyfrif
  • cliciwch ‘gweld fy nhreth gyngor’
  • dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin

I gofrestru ar gyfer cyfrif, bydd angen i chi gael rhif eich cyfrif treth gyngor ac ateb cwestiwn diogelwch yn seiliedig ar wybodaeth eich cyfrif.

Gallwch ddod o hyd i'ch rhif cyfrif ar eich bil diweddaraf.

Cysylltwch â ni

Bydd llenwi ein ffurflen yn golygu y gallwn gyfeirio eich ymholiad at y tîm cywir a darparu ymateb yn gyflymach.

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer y dreth gyngor, gwnewch yn siŵr bod eich cyfeirnod cyfrif treth gyngor wrth law cyn dechrau llenwi'r ffurflen - mae'n rhif wyth digid ac yn dechrau gyda thri digid.

Cysylltwch â ni