Coedwig Coed Gwent

Wentwood nature reserve

Coedwig Coed Gwent

Maes parcio Ffawydd Cadeira.Cyf.

Grid yr Arolwg Ordnans:ST 422 949

Maes parcio Derw’r CoedwigwrCyf.

Grid yr Arolwg Ordnans:ST 429 939  

Mae Coedwig Coed Gwent yn ymestyn dros fwy na 100 hectar o goetir hynafol ar ddwy ochr y ffin rhwng Casnewydd a Sir Fynwy.

Mae llawer o draciau a llwybrau trwy’r goedwig sy’n ei gwneud yn lle gwych i fynd am dro gyda digonedd o fywyd gwyllt i’w weld.

Yr hyn sydd i’w weld

Mae rhannau o Goedwig coed Gwent yn blanhigfa gonwydd a blannwyd mor bell yn ôl â’r 1700au.

Mae’r conwydd hyn sy’n tyfu’n gyflym yn ffynhonnell dda o bren sy’n cael ei gynaeafu hyd heddiw.

Yn aml bydd y conwydd yn bwrw cysgod trwchus sy’n cyfyngu ar y planhigion a all dyfu ar y ddaear oddi danynt; fodd bynnag, bydd llawer o adar yn bwydo ar gonau’r coed hyn – cadwch lygad am y dryw melyn cribog bychan sy’n anodd ei weld.  

Mae rhannau helaeth o’r goedwig wedi cael eu hailblannu â choed llydanddail brodorol, fel bod y goedwig yn dychwelyd i’w chyflwr gwreiddiol.

O dan ganopi’r coed collddail, mae clychau'r gog a blodau eraill y gwanwyn yn ffynnu.

Mae Coedwig Coed Gwent yn gartref i adar fel y gwybedog mannog a’r troellwr mawr a mamaliaid fel pathewod, ceirw ac ystlum, a gallech chi fod yn ddigon ffodus i weld gwiber neu fadfall yn torheulo mewn llecynnau heulog.  

Mae llennyrch agored yn y coetir yn gynefinoedd delfrydol i degeirianau ffynnu, megis tegeirian y wenynen, ac mae darnau bach o redyn yn creu cynefin gwahanol eto.

Cadwch lygad am nythod morgrug coed sy’n gallu bod yn 3-4 troedfedd o uchder!

Hanes

Mae Coedwig Coed Gwent yn rhan o’r bloc mwyaf o goetir hynafol yng Nghymru gyda hanes wedi’i gofnodi sy’n ymestyn dros 1000 o flynyddoedd.

Ar un adeg roedd yn dir hela ar gyfer bonedd Castell Casgwent, gan ymestyn dros 3000 hectar, ac mae’n cynnwys derwen hynafol o’r enw’r Dderwen Gyrliog sy’n mesur 6.35m o’i hamgylch.

Hefyd ceir olion hen felin ac aelwydydd siarcol yn y goedwig sy’n awgrymu y bu ganddi rôl ddiwydiannol yn y gorffennol.  

Mae’r planhigfeydd conwydd yn dyddio’n ôl i’r 1700au a chafodd llawer o’r coed brodorol eu cymynu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd er mwyn creu ategion i’r ffosydd.  

Mae rhannau o’r goedwig bellach yn cael eu hailblannu â choed llydanddail brodorol, gan adfer y coetir i’w ogoniant blaenorol. 

Mynediad

Nid oes unrhyw wasanaethau bysus i Goedwig Coed Gwent. Mae’r arosfannau agosaf ar hyd yr A48 sydd o leiaf 2.5 milltir o rannau isaf y goedwig.   

Gellir parcio am ddim ym maes parcio Ffawydd Cadeira yng nghanol y goedwig ac ym maes parcio Derw’r Coedwigwr (DS: NID tafarn y Foresters Oaks ar yr A48 yw hwn) sydd ar yr ochr ddeheuol. Mae’r ddau faes parcio ar y ffordd i Frynbuga sy’n eich arwain heibio i Gronfa Ddŵr Coed Gwent.

Mae Coedwig Coed Gwent ar agor bob dydd drwy’r flwyddyn. Ceir rhwydwaith da o rodfeydd coetir, llwybrau â chyfeirbyst, traciau a llwybrau ceffyl, gan gynnwys llwybr beicio mynydd disgynnol Coedwig Coed Gwent.

Fel arfer, mae taflen sy’n disgrifio llwybrau cerdded, a luniwyd gan Coed Cadw, ar gael wrth hysbysfyrddau’r ddau faes parcio.  

Ceir meinciau picnic ym maes parcio Derw’r Coedwigwr ynghyd â safleoedd barbeciw a digon o laswellt agored.  

Addysg

Mae Coedwig coed Gwent yn addas ar gyfer gwibdeithiau ysgol gyda lle parcio i goetsis ym maes parcio Derw’r Coedwig. 

Rhennir perchenogaeth ar y coetir rhwng Coed Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru a dylai ysgolion a grwpiau eraill gysylltu â nhw i sicrhau argaeledd Swyddogion Addysg.

Diogelwch

Mae’r traciau gwledig a’r llwybrau anffurfiol yn anwastad a gallant fod yn fwdlyd, felly mae’n hanfodol gwisgo esgidiau cerdded.

Mae Coedwig Coed Gwent yn goedwig weithredol ac mae’n bosib y bydd gwaith yn cael ei wneud gan gontractwr – dylech ufuddhau i unrhyw hysbysiadau diogelwch.

Mae Coedwig Coed Gwent yn cael ei defnyddio gan bobl sy’n mynd â’u cŵn am dro, cerddwyr a marchogwyr fel ei gilydd. Cofiwch barchu’r defnyddwyr eraill.