The New Lahore
Fe’i hagorwyd ym 1961, a hwn yw’r bwyty Indiaidd hynaf yng Nghasnewydd. Mae The New Lahore wedi cael ei ailwampio’n helaeth, a nawr, gall prydau cyri gael eu gweini naill ai mewn ffordd draddodiadol (hen arddull) neu gyfoes (arddull newydd).
Y Tŷ Cyri Gorau yng Nghymru
Enwyd The New Lahore y Tŷ Cyri Gorau yng Nghymru gan The Sunday Telegraph ym mis Gorffennaf 2014, a hwn yw’r unig fwyty Indiaidd yng Nghymru i gael ei enwi ar y rhestr o’r 20 tŷ cyri gorau ym Mhrydain, yn y pedwerydd safle, o flaen rhai o’r prif fwytai ym Mayfair!
Fe wnaeth yr adolygwr ganmol staff brwdfrydig y bwyty, a’i ddisgrifio fel “lle perffaith i gael bwyd allan... roedd yn ymfalchïo mewn blasau eithriadol, a gwasanaeth brwdfrydig, ond heb fod yn ormesol.”
Cyfleusterau
- Dewisiadau llysieuol
- Dewisiadau fegan
- Bwydlen i blant
- Trwyddedig ar gyfer alcohol
Gwasanaeth bwyd
Bob dydd, 5.30pm-12.30am
New Lahore
145 Dock Street, Casnewydd NP20 1EE
Ffôn: +44 (0)1633 265665
E-bost: [email protected]