Y Maerun
Maen nhw’n cadw traddodiad y dafarn Brydeinig yn fyw gyda phob peint sy’n cael ei arllwys yn Y Maerun (neu The Marshfield). O’r eiliad y cerddwch i mewn trwy’r drws, gallech feddwl eich bod wedi cael eich cludo’n ôl i gyfnod gwell, symlach.
Fodd bynnag, mae’r lleoliad cysurus, modern a chyfeillgar i deuluoedd, y detholiad da o ddiodydd cyfoes, a’r prydau traddodiadol Prydeinig ychydig yn wahanol, yn adrodd stori arall. Yma, cewch y gorau o’r hen a’r newydd, a’r cyfan o dan un to.
Mae cynnig “2 am £12” ar ddetholiad o brydau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a nifer o brydau arbennig sy’n newid bob wythnos. Mae artist byw yn perfformio yno ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis.
Mae’r ystafell gyfarfod a digwyddiadau yn Y Maerun ar gael i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd a dathliadau teuluol. Gweler y wefan am fwy o wybodaeth.
Mwynhewch y gerddoriaeth yn yr ardd (os bydd y tywydd yn caniatáu) a rhowch gynnig ar y bar Mojito a’r bar Pimms.
Cyfleusterau
- Parcio ar gael
- Trwyddedig ar gyfer alcohol
- Dewisiadau llysieuol
- Bwydlen i blant
Y MaerunGwasanaeth bwyd
11:30 – 21:30, bob dydd
Y Maerun
140 Marshfield Road
Maerun
Casnewydd
CF3 2TU
Ffôn: +44(0)1633 680171
Gwefan: www.ymaerun.co.uk