Coroniad y Brenin
Bydd pobl ledled y wlad a'r Gymanwlad yn dathlu Coroni Ei Fawrhydi Y Brenin a'i Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog dros benwythnos o ddigwyddiadau arbennig.
Bydd Cinio Mawr y Coroni, partïon stryd a diwrnod wedi’i ymroi i achosion da yn dod â chymunedau at ei gilydd.
Cynhelir y Coroni ddydd Sadwrn 6 Mai yn Abaty Westminster a ddydd Sul 7 Mai cynhelir Cyngerdd Coroni yng Nghastell Windsor.
Bydd penwythnos y dathliadau yn dod i ben gyda'r Big Help Out nos Lun 8 Mai - gŵyl y banc arbennig wedi’i chyhoeddi gan y Prif Weinidog i nodi’r Coroni.
Cinio Mawr y Coroni – Parc Beechwood
Dydd Sul 7 Mai, 2023
Bydd marchnad artisan yn y maes parcio rhwng 12-4.
Bydd caffi Beechwood ar agor ar gyfer lluniaeth poeth ac oer o 9-5.
Dewch â phicnic i ddathlu â’r teulu cyfan. Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd:
Tŷ Beechwood
Llwyfan adloniant
-
-
Bydd gweithgareddau chwaraeon ar y cae uchaf a MUGA gweithgareddau chwaraeon gyda Casnewydd Fyw fel pêl-droed, pêl-fasged, tenis a gweithgareddau i blant rhwng 12-4.
-
Adloniant crwydr gan gynnwys y Nutkins, Majorettes, Bees a Sunday Besties
- Bydd gweithdai celf a chrefft i blant ar gael gan Grŵp Cymunedol Beechwood Park (o flaen y caffi) rhwng 12-4.
Cystadleuaeth celf a barddoniaeth y coroni
I ddathlu coroni’r Brenin Siarl III, byddem wrth ein boddau i bobl ifanc yng Nghasnewydd gynhyrchu gwaith celf neu gerdd ar thema’r Coroni.
Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 12 Mai 2023 a gallech ennill gwobr wych. Bydd gwobrau unigol gan gynnwys cael eich cerdd wedi’i darllen gan awdur enwog neu enwogion lleol, ac mae cyfle i ennill iPads i geisiadau ysgol buddugol!
Darganfod mwy
Partïon Stryd
I gefnogi’r Cinio Mawr ddydd Sul, 7 Mai, bydd Cyngor Dinas Casnewydd unwaith eto yn hwyluso partïon stryd lleol fel y gwnaethom ni ar gyfer y Jiwbilî.
Mae ceisiadau bellach wedi cau. Mae rhestr o'r amseroedd cau a gymeradwywyd ar gael isod.
Rhestr o ffyrdd sydd ar gau.