Sut i ymweld yn ddiogel
Darllenwch Reoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru
Mae newidiadau i’r ardaloedd i gerddwyr yng nghanol y ddinas yn cefnogi’r angen i gadw pellter cymdeithasol ac yn gwella diogelwch ymwelwyr, gan gynnwys rhwystrau ychwanegol ar fannau allweddol i gynyddu’r ardaloedd sydd ar gael yng nghanol y ddinas i gerddwyr.
Gweler yma fap o’r newidiadau yng nghanol y ddinas. (pdf).
I sicrhau eich diogelwch eich hun a phobl eraill, dilynwch y canllawiau isod.
Sut i ymweld yn ddiogel
Mae gorchuddion wyneb yn orfodol yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do ledled Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Cadwch bellter diogel rhyngoch chi ac eraill bob amser gan gynnwys wrth giwio ac aros am gludiant
- Dilynwch arwyddion a chyfarwyddyd ar strydoedd, mewn siopau a thai bwyta
- Defnyddiwch daliadau digyffwrdd lle bynnag y bo modd
- Gwisgwch orchudd wyneb mewn sefyllfaoedd lle gallai fod yn anodd cadw pellter cymdeithasol rhwng pobl
- Golchwch eich dwylo'n rheolaidd
- Byddwch yn ystyriol o bobl sy’n agored i niwed a'r rhai sydd â phroblemau symudedd
- Cerddwch neu feiciwch i ymweld os gallwch
Barod Amdani
Cadwch olwg am logo Barod Amdani yng Nghasnewydd!
Barod Amdani yw marc swyddogol y DU i ddangos bod busnes wedi gweithio'n galed i ddilyn canllawiau COVID-19 y diwydiant a’r llywodraeth, a bod proses ar waith i gynnal glanweithdra a hybu ymbellhau cymdeithasol.
Dewch o hyd i'r sefydliadau twristiaeth diweddaraf yng Nghasnewydd sydd wedi ymrwymo i'r safon "Barod Amdani" a dderbynnir yn genedlaethol