Fflatiau'r Cei
Mae unig westy fflatiau Casnewydd yng nghanol y ddinas, taith gerdded 5 munud o’r orsaf drenau, a thaith car ychydig funudau o gyffyrdd 26/25A a 25 traffordd yr M4.
Mae’r fflatiau un a dwy ystafell wely cyfoes hyn ar hyd Afon Wysg â golygfeydd anhygoel dros y ddinas.
Gellir parcio yn y maes parcio drws nesaf am £2 am 24 awr.
Mae Fflatiau’r Cei gerllaw Stadiwm Rodney Parade a Theatr Glan-yr-afon. Mae Felodrom Geraint Thomas, rhan o Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, ond ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Hygyrchedd
Ceir mynediad i’r adeilad drwy dri gris, ond mae yno ramp hefyd.
Mae ardal y dderbynfa’n wastad, ac mae lifft i’r gwahanol loriau.
Nid oes grisiau yn y coridorau na’r fflatiau, ond dylech wirio eich hun ynghylch anabledd a symudedd.
Fflatiau’r Cei
Tŷ Clarence, Clarence Place, Casnewydd NP19 7AA
Gwefan: https://www.quayapartments.co.uk/aparthotels-newport/
Ffôn: (01633) 386619
Neilltuo fflat: [email protected]
Mae cyfleusterau’n cynnwys:
- Lifft
- Cegin fodern
- Cyswllt Di-wifr am ddim
- Teledu 4K Call
- Ystafelloedd Maint Brenin a Brenin Mawr
- Peiriant coffi Tassimo
- Yn agos i dai bwyta ac archfarchnadoedd
- Yn agos i’r orsaf drenau
TRA99454 18/03/2019