Gwesty'r Celtic Manor
Mae Gwesty’r Celtic Manor, sydd ar safle 1,400 erw ar gyrion Casnewydd, yn brofiad cynhwysfawr i ymwelwyr busnes a hamdden.
Mae yna ddau westy – un gwesty 5 seren gyda 330 o ystafelloedd gwely, 32 ohonynt yn switiau; a Maenordy hanesyddol o’r 19eg Ganrif gyda 70 o ystafelloedd gwely.
Mae yna ganolfan gynadledda a neuadd arddangos, 31 ystafell gyfarfod, pump bwyty, tri chwrs golff pencampwriaeth – gan gynnwys y Twenty Ten a gafodd ei adeiladu yn arbennig ar gyfer Cwpan Ryder 2010 – academi golff o ansawdd uchel, dau gwrt tennis, cyfleusterau saethu, pysgota a beicio mynydd, clybiau iechyd a sba.
Mae’r Hunters Lodges, cabanau pren moethus gyda sawna a jacuzzi, yn cynnig llety i hyd at wyth o bobl.
Derbyniodd Gwesty’r Celtic Manor Wobr Aur Croeso Cymru yn 2013-2014, sy’n gwobrwyo ansawdd, cyfforddusrwydd a lletygarwch o’r radd flaenaf.
Gwesty’r Celtic Manor
Coed Coldra, Casnewydd, De Cymru NP18 1HQ
Ffôn: +44 (0)1633 413000
Ffacs: +44 (0)1633 412910
Gwefan: www.celtic-manor.com
Arhosfan bws gerllaw
|
Trwydded gweini alcohol
|
Parcio
|
Cyfleusterau hamdden
|
Gwobr Welcome Host
|
Lifft
|
Cyfleusterau golchi dillad
|
Darparwn ar gyfer anghenion dietegol arbennig
|
Bwytai
|
Gorsaf drenau gerllaw
|
Cyfleusterau gwneud te a choffi
|
Teledu yn yr ystafell wely
|
Aerdymheru
|
Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
|
Gardd
|
Canolfan gynadledda
|
|
|