Studio West
Llety cyfforddus ar ffordd dawel yng nghanol pentref hanesyddol Caerllion, dim ond dwy funud mewn car o Gyffordd 24 yr M4.
Y lle perffaith i’r rheiny sydd eisiau crwydro’r ardal, gyda Llwybr Troed Dyffryn Wysg yn dechrau gerllaw, nifer o lwybrau beicio cyfagos, a chyrsiau golff ardderchog yng Ngwesty’r Celtic Manor, llai na hanner milltir i ffwrdd.
Mae nifer o dafarndai a bwytai lleol gerllaw, ac mae gan y llety ddigon o le i dri o bobl.
Parcio preifat tu allan i’r llety, a golygfeydd godidog o’r ardd. Mae lle i gadw beiciau neu offer arall, er enghraifft, clybiau golff neu offer pysgota.
Ystafelloedd: un ystafell deulu ar y llawr cyntaf, sy’n cynnwys un gwely dwbl ac un gwely sengl, a gwely soffa ar y llawr gwaelod.
Studio West
Old Hill
Caerllion
NP18 1JG
Ffôn: 07818 056138
E-bost: [email protected]
|
Parcio preifat
|
Cegin gynhwysfawr
|
Teledu
|
Safle di-fwg
|
Croesewir beicwyr
|
Croesewir cerddwyr
|
Arhosfan bws gerllaw
|
Gorsaf drenau gerllaw
|
Cyfleusterau golchi dillad
|