Bwthyn Fferm Clearwell
Fferm wartheg, cnydau a defaid weithredol 200 erw mewn dyffryn heddychlon, llai na deg munud o gyffordd 28 yr M4, gyda bythynnod cynhwysfawr sy’n ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr busnes a’r rheiny sydd ar eu gwyliau.
Mae’r safle’n hynod hygyrch i feicwyr gan fod Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 yn rhedeg ar hyd lôn y fferm, tra bod yr ardal wledig yn atyniadol iawn i wylwyr adar, cerddwyr ac artistiaid.
Mae gan y bythynnod geginau cynhwysfawr, ystafelloedd ymolchi en-suite a setiau teledu, tra bod dau ohonynt ar un lefel ac yn cynnwys gwely a bath gwbl hygyrch.
Mae pob drws yn hygyrch ac mae datganiad mynediad wedi cael ei baratoi ar gyfer yr eiddo.
Oherwydd bod nifer o anifeiliaid ar y fferm, nid oes modd derbyn anifeiliaid anwes.
Mae yna ddwy goedwig a chwe llyn bywyd gwyllt ar y fferm, ac mae’n bosibl i ymwelwyr bysgota am garpiaid yn un ohonynt.
Bythynnod Fferm Clearwell
St Michaelstone-y-Fedw
ger Bassaleg
Casnewydd
CF3 6XT
Ffôn: +44 (0)1633 680966
Ystafelloedd ymolchi en-suite |
Parcio preifat |
Ceginau cynhwysfawr |
Setiau teledu |
Cyfleusterau i bobl anabl |
Safle di-fwg |
Croesewir beicwyr |
Croesewir cerddwyr |
|