Pentref Myfyrwyr Casnewydd
Arhoswch yng nghanol Casnewydd sydd ond pum munud ar droed o Gampws Dinas Prifysgol De Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol, mae Pentref Myfyrwyr Casnewydd yn cynnig ystafelloedd o feintiau gwahanol am bris gwahanol, cysylltiad di-wifr am ddim a band eang â gwifren, digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, ardaloedd cymunedol gyda gemau a bwrdd pŵl, lle i gadw beiciau a diogelwch 24 awr.
Mae ystafell ymolchi i bob ystafell ac fe rennir cyfleusterau cegin a lolfa.
Mae Pentref Myfyrwyr Casnewydd yn agos at ganol y ddinas, amwynderau a chysylltiadau trafnidiaeth.
Pentref Myfyrwyr Casnewydd
Tŷ Endeavour
Usk Way
Casnewydd
NP20 2DZ
Ffôn: +44 (0)161 850 6664
E-bost: [email protected]
Gwefan: campuslivingvillages.com/united-kingdom/newport/newport-student-village/
- Lle diogel i gadw beic
- Ystafell ymolchi bersonol
- Derbynfa sydd â staff 24 awr
- Yn agos i ganol y ddinas