Mae Casnewydd yn croesawu grwpiau o ymwelwyr i nifer o atyniadau a llefydd o ddiddordeb.
Gallwn ni yn Uned Twristiaeth Casnewydd helpu i drefnu ymweliadau i bob atyniad a gallwn awgrymu’r tywyswyr lleol, Phil Coates neu Bob Trett.
Caerllion Rufeinig
Roedd Caerllion un tro yn un o safleoedd milwrol pwysicaf Ynysoedd Prydain dan yr Ymerodraeth Rufeinig.
Heddiw, mae’n dref hanesyddol ddeniadol gyda nifer o safleoedd hynod ac amrywiaeth o dafarndai, bwytai ac ystafelloedd te.
Amcan amser ymweld:Hanner diwrnod
Mae’r cyfleusterau yn cynnwys parcio am ddim i fysus mawr, atyniadau am ddim a chanolfannau crefft, dewis da o luniaeth lleol ar gael.
Tŷ Tredegar
Mae modd bwcio teithiau tywys o amgylch Tŷ Tredegar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer grwpiau a chaiff ymwelwyr ddarganfod sut roedd bywyd i’r rhai a oedd yn byw uwch a dan y grisiau.
Mae’r tŷ mawreddog mewn parc naw deg erw gyda gerddi hardd, maes chwarae i blant, llwybr loncian, taith gerdded mewn coetir a llyn.
Mae lluniaeth ar gael ym Mwyty Brewhouse ac mae siop anrhegion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Amcan amser ymweld:Hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys parcio i fysus, caffi, siop anrhegion, gweithdai crefftwyr, tiroedd eang a llyn. Gall bod gostyngiadau i grwpiau. Mynediad am ddim i dywysyddion cofrestredig y bwrdd twristiaeth, gyrwyr bysus ac arweinwyr taith sy’n hebrwng grwpiau o 15 neu fwy.
Pont Gludo
Mae Pont Gludo Casnewydd yn strwythur unigryw Gradd 1 dros afon Wysg ac mae’n cynrychioli hanfod y datblygiad diwydiannol yng Nghasnewydd.
Cafodd ei chodi ym 1906 i roi cludiant diogel pan oedd yn hanfodol caniatáu llongau mast uchel yn uwch i fyny’r afon.
Gall cerddwyr deithio ar y gondola neu ddringo’r 177 troedfedd at y rhodfa uchel.
Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cyflwyno hanes y bont a gellir bwcio tywysydd o flaen llaw i grwpiau.
Mae’r tŷ modur a’r rhodfa uchel ar agor fel rhan o daith ymwelwyr dydd, yn dibynnu ar y tywydd.
Amcan amser ymweld:1-2 awr
Mae’r cyfleusterau yn cynnwys parcio am ddim i fysus, teithiau tywys i grwpiau (modd bwcio o flaen llaw), siop anrhegion a chanolfan ymwelwyr, mae lluniaeth ar gael dros y ffordd yn y Bridge.
Canolfan Camlas Fourteen Locks
Ar gamlas Sir Fynwy a’r Bannau Brycheiniog, gall ymwelwyr i Ganolfan Camlas Fourteen Locks olrhain twf a chwymp y gamlas a’i rôl yn cludo glo, haearn, calchfaen a brics o gymoedd de Cymru i borthladdoedd Casnewydd a Chaerdydd.
Mae pwynt gwybodaeth cyfrifiadurol yn rhoi profiad o daith ‘rhithiol’ ar hyd y gamlas, a dysgu sut mae loc camlas yn gweithio.
Y tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr, mae’r gyfres o lociau’n codi troedfedd mewn hanner milltir ac mae’n dal i fod yn olygfa drawiadol heddiw.
Mae ardal bicnic ddeniadol a llwybrau wedi eu marcio ar hyd llwybr tynnu’r gamlas a’r wlad o’i chwmpas, yn gwneud Fourteen Locks yn ddiwrnod allan braf i ymwelwyr grŵp.
Gellir trefnu tywyswyr ar gyfer ymwelwyr mewn grŵp.
Amcan amser ymweld:Hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys parcio bysus, canolfan ymwelwyr, caffi a siop anrhegion.
Gwastatir Gwent a Gwarchodfa Gwlyptir Casnewydd
Gwarchodfa bywyd gwyllt ydy Gwarchodfa Gwlyptir Casnewydd, sydd ar ran o Wastatir tawel Gwent, ar gyrion Casnewydd, a chafodd ei chreu i wneud yn iawn am golli’r fflatiau mwd ym Mae Caerdydd.
Dros 438 hectar, mae’r gwelyau brwyn, llynnoedd heli, glaswelltir gwlyb a’r tir prysg wedi denu cyfoeth o adar tir gwlyb ac mae’n lle gwych i weld tegeirianau, gloÿnnod byw, gweision neidr a dyfrgwn.
Mae gwastatir Gwent yn ardal hardd yng Nghasnewydd i grwpiau ei darganfod a gellir trefnu tywyswyr ar gyfer ymweliadau grŵp.
Amcan amser ymweld:Hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys parcio am ddim i fysus, mynediad am ddim, tywyswyr ar gael i grwpiau (gellir bwcio o flaen llaw), caffi, siop anrhegion, mynediad i Lwybr Arfordir Cenedlaethol Cymru. Tocyn caffi ar gyfer y gyrrwr.
Cadeirlan Casnewydd: Gwynllyw, Frenin a Chyffeswr
Mae Cadeirlan Sant Gwynllyw yn adeilad hen iawn ac mae’n safle addoli ers yn gynnar yn y 6ed ganrif.
Yn ôl y chwedl, trodd y tywysog filwr, Gwynllyw, yn Gristion pan ddywedwyd wrtho mewn breuddwyd am chwilio am ych gwyn â smotyn du ar ei dalcen, a phan ddeuai o hyd iddo, dylai godi eglwys i ddangos ei edifeirwch.
Croesawir grwpiau yn yr eglwys a gellir trefnu tywysydd ar gyfer ymwelwyr grŵp.
Amcan amser ymweld:1 awr
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys parcio, tywyswyr ar gyfer grwpiau (gellir bwcio o flaen llaw), siop anrhegion, lluniaeth.
TRA101860 7/5/2019