Darganfyddwch fwy am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ardoll ymwelwyr yng Nghymru drwy glicio yma
Mae tîm twristiaeth Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig cymorth a chyngor i aelodau'r diwydiant twristiaeth yng Nghasnewydd.
Os ydych chi'n berchen ar fusnes twristiaeth yng Nghasnewydd - llety, gweithgareddau, bwyd - ac yn cynnig gwasanaethau i ymwelwyr, hoffem glywed gennych.
Canllaw Teithio i Gasnewydd ar gyfer Diwydiant
Gallwn roi cyngor ar restru digwyddiadau, cyllid, aelodaeth cymdeithasau twristiaeth, datblygu cynnyrch, darparu gwybodaeth i dwristiaid, rhwydweithio, marchnata a hyrwyddo.
Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth
Mae'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth ar gael i fusnesau twristiaeth newydd a phresennol yng Nghymru i'w helpu i wella cyfleusterau a chynyddu capasiti lle y bydd bwlch yn y farchnad.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 603000 neu anfonwch e-bost at [email protected]
WRAP Cymru – cyllid i fusnesau bach a chanolig ym maes lletygarwch, twristiaeth a bwyd
Mae WRAP Cymru yn cynnig cymorth i fusnesau bach a chanolig i'w helpu i arbed arian trwy leihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu.
Gall busnesau wneud cais am grant o hyd at £50,000 a gwasanaeth ymgynghorol.
Mae profiad ymwelwyr yn rhan allweddol o'r economi ymwelwyr a'ch busnes.
Darllenwch ragor ar wefan Rheoli Cyrchfannau Cymru.
Darllenwch Strategaeth Rheoli Cyrchfannau Casnewydd (Saesneg) yma
Darllenwch Cynllun Gweithredu Rheoli Cyrchfannau Casnewydd (Saesneg) yma
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch (01633) 233664 neu anfonwch e-bost at [email protected]