Cais perchennog am archwiliad eiddo

Os ydych chi'n berchen ar eich cartref ac yn poeni am ddiffygion neu dadfeilio, gallwn gynnig gwasanaeth cynghori ac archwilio/arolwg i'ch helpu. Am ffi o £253.12 ynghyd â TAW (£303.74 gan gynnwys TAW) byddwn yn:

  • Archwilio’ch eiddo
  • Eich cynghori am unrhyw ddiffygion sy'n bresennol gan ddefnyddio'r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai. 

Mae’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (SMIDT) yn werthusiad ar sail peryglon yw hyn i helpu awdurdodau lleol i adnabod risgiau a pheryglon posib i iechyd a diogelwch gan unrhyw ddiffygion a nodir mewn anheddau, a gwarchod rhagddynt.  Gallwch ddysgu mwy ar ein tudalen Amodau a Diffygion Tai

Fe'i cyflwynwyd dan Ddeddf Tai 2004 ac mae’n berthnasol i eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr. Mae'r dull asesu hwn yn canolbwyntio ar y peryglon sy'n bresennol mewn tai. Bydd mynd i'r afael â'r peryglon hyn yn gwneud tai yn iachach ac yn fwy diogel i fyw ynddynt.

Byddwn yn:

  • Trafod gwaith atgyweirio a'r hyn sydd ei angen i unioni adfeilio
  • Cyflwyno amserlen o waith y gallwch ei rhoi i gontractwyr i gael dyfynbrisiau. Bydd hyn yn helpu contractwyr i ddyfynnu am union waith ac ni ddylech weld unrhyw waith ychwanegol.
  • Bydd yr amserlen waith yn eich helpu hefyd i gael dadansoddiad o'r costau gan gontractwyr yr ydych yn ymgysylltu â nhw.
  • Bydd y cyngor y bydd y swyddog yn ei roi yn eich helpu i benderfynu pa gontractwr i'w ddewis, gan y byddwch yn gweld y costau y byddwch yn eu derbyn wrth gymryd rhan mewn dyfynbrisio.
  • Bydd y swyddog yn eich helpu i asesu gwaith wedi'i gwblhau – gan y bydd y swyddog yn ystod yr ymweliad yn eich cynghori pa waith sydd ei angen a sut olwg ddylai fod arno wedi'i gwblhau.
  • Mae'r swyddog arolygu yn arolygydd hosio cymwys proffesiynol gyda chymwysterau priodol y gellir ymddiried ynddynt. Bydd y swyddog arolygu naill ai'n Swyddog Iechyd yr Amgylchedd neu'n Uwch Swyddog Technegol.
  • Bydd y swyddog yn rhoi cyngor ar unrhyw sefydliadau all allu darparu cyllid - mae hyn yn ddibynnol ar dderbyn budd-daliadau. 

Ceisiadau

Gwneud cais am archwiliad eiddo

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais (word).

I wneud cais, byddwn yn derbyn taliad a chwblhewch y ffurflen gais a'i hanfon at [email protected] neu anfonwch post at:

Iechyd Amgylcheddol - Tai, 

Cyngor Dinas Casnewydd, Godfrey Road, 

Casnewydd NP20 4UR

Byddwn yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad i archwilio'r eiddo a byddwch yn derbyn yr amserlen waith o fewn pythefnos i'r archwiliad. 

Sylwch y gallai fod angen cymeradwyaeth Cynllunio neu Reoliadau Adeiladu ar gyfer rhai gwaith atgyweirio:

Rheoliadau cynllunio a rheoli adeiladu

Mae perchennog yr eiddo, neu eraill sydd â rheolaeth dros yr eiddo, yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl gymeradwyaeth cynllunio neu reoleiddio adeiladu angenrheidiol wedi'i sicrhau.

Nid yw'r cais am archwiliad eiddo/arolwg eiddo perchennog yn awgrymu y cydymffurfiwyd â'r caniatâd cynllunio neu'r rheoliadau adeiladu gofynnol neu'n cael cais amdanynt

.Os hoffech holi am unrhyw waith, e-bostiwch [email protected] neu [email protected] am fwy o wybodaeth.