Atal Niwsans Tai

Sut i atal niwsans tai

Gallwch chi helpu i leihau niwsans tai drwy ddilyn y canllawiau isod:

  • Os oes gennych leithder ac mae hyn ar wal gyfagos, meddyliwch sut y bydd yn treiddio trwy'r wal i mewn i eiddo eich cymydog. Mae lleithder yn achosi effeithiau andwyol ar iechyd bobl ac mae tueddu iddo achosi difrod eilaidd i adeiladau. Gall twf digroeso o facteria a llwydni ddenu pryfed a gall arwain at ryddhau cyfansoddion organig anweddol o ardaloedd gwlyb. Mae'r lleithder digroeso yn galluogi twf gwahanol ffyngau mewn pren, gan achosi problemau iechyd sy’n gysylltiedig â phydredd neu lwydni a gall arwain at syndrom adeilad afiach. Mae plastr a phaent yn dirywio ac yn dod yn rhydd. Mae'n ddoeth ymchwilio a datrys problemau lleithder cyn iddo waethygu.
  • Os yw perchnogion eiddo yn poeni am leithder yn eu cartref eu hunain, mae Tai Iechyd yr Amgylchedd yn cynnig cais i berchennog am archwiliad eiddo/arolwg - £209.00 o 1 Ebrill 2022. Os ydych yn rhentu'n breifat, byddwn yn ymweld i asesu lleithder a byddwn yn dweud os gallwn helpu. Byddwn yn mesur darlleniadau protimeter i gofnodi lefelau lleithder.
  • Os ydych yn berchen ar anifeiliaid anwes – cŵn, ieir, colomennod ac ati - sicrhewch fod eu hysgarthion yn cael eu glanhau'n ddyddiol a bod bwyd anifeiliaid yn cael ei gadw'n fewnol ac nid y tu allan.
  • Meddyliwch am eich cymdogion pan fyddwch chi'n gosod llofftydd/ cytiau/ siediau anifeiliaid, cadwch nhw'n lân. Gwaredwch wastraff bob dydd.
  • Wrth fwydo adar yn meddwl am gymdogion wrth ddenu'r adar - ydyn nhw'n glanio ar doeau cymdogion ac ati. Ystyriwch faint o adar rydych chi'n eu denu a chyfyngwch ar hyn, gan fod ysgarthion yn niweidiol i iechyd os oes llawer ohono. Os ydych chi’n dymuno bwydo adar yn eich gardd, sicrhewch fod unrhyw wastraff bwyd yn cael ei gasglu a'i daflu yn y bin cyn y nos, bydd hyn yn tynnu sylw'r cnofilod. Mae bwydo adar yn annog gweithgareddau cnofilod oni bai bod hyn yn cael ei reoli'n ofalus.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich eiddo a'ch gerddi wedi'u cynnal a'u cadw'n dda i atal pla cnofilod, pryfed neu wiwerod. Sicrhau bod unrhyw bwyntiau mynediad wedi'u selio. Sicrhewch fod ceginau ac ystafelloedd ymolchi yn cael eu cadw'n lân i atal bacteria, gwenwyn bwyd, plâu, ac ati.
  • Os ydych chi'n rhentu ac mae'r boeler neu'r gwres trydanol yn ddiffygiol, neu os yw gwasanaethau wedi'u datgysylltu, Cysylltwch â ni a byddwn yn eich ffonio i drafod y sefyllfa, yn ymweld â'ch eiddo ac yn cysylltu â'ch landlord. Os na fydd eich landlord yn gwneud gwaith adfer, byddwn yn ymyrryd a gallwn gyflwyno rhybudd ffurfiol.
  • Os ydych chi'n berchen ar eich cartref a bod eich boeler neu'ch gwres trydanol yn ddiffygiol, ewch i'n tudalen effeithlonrwydd ynni oherwydd gallai fod cymorth ar gael.
  • Os yw ffliw boeler eich cymydog yn chwythu i mewn i'ch ffenestr yn ormodol, cysylltwch â ni a byddwn yn ymweld â chi i weld a allwn ni helpu.
  • Os ydych chi'n rhentu ac mae draenio’n ddiffygiol gyda charthffosiaeth yn gorchuddio ardal fawr, cysylltwch â ni a byddwn yn penderfynu a allwn ni helpu.
  • Os ydych chi'n berchen ar eich cartref ac mae draenio’n ddiffygiol, cysylltwch â chontractwyr preifat, Dŵr Cymru neu eich yswiriant adeiladu.
  • Os oes gan eiddo cyfagos ddraeniad diffygiol, Cysylltwch â ni a byddwn yn ymweld â chi i benderfynu a allwn ni helpu.
  • Os yw diffyg o ran draenio dŵr glaw un eiddo yn achosi niwsans i feddianwyr eiddo cyfagos cysylltwch â ni.
  • Croniadau neu ordyfiant - os yw hyn yn ddifrifol ac mae llawer iawn ohono sy'n gorchuddio ardaloedd cyfan, cysylltwch â ni a byddwn yn ymweld â chi i benderfynu a allwn ni helpu. 
  • A oes gennych chi gnofilod yn bresennol mewn eiddo gosod preifat sy'n cyflwyno pla mawr? Os felly, gallwn ni helpu.
  • A yw inswleiddio rhwng anheddau yn ddiffygiol ac yn annigonol sy’n caniatáu i sŵn annerbyniol basio atoch chi y tu mewn i'ch eiddo? Cysylltwch â'r Tîm Cymdogaeth a Sŵn yn gyntaf a fydd yn asesu lefelau sŵn. Os cofnodir sŵn ar lefel dderbyniol o inswleiddio diffygiol, bydd y tîm Cymdogaeth a Sŵn yn cyfeirio'ch achos i’r tîm Tai Iechyd yr Amgylchedd a fydd yn cysylltu â chi i asesu pa gamau y gallwn eu cymryd.
  • Yn anad dim, byddwch yn rhesymol, dangoswch ofal a dealltwriaeth os yw'ch cymydog yn cysylltu â chi gyda phroblem, ceisiwch helpu a chydweithredu.