Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn adolygu ei gynllun Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth i weld a ddylai ei estyn i bum mlynedd o fis Mehefin 2019.
Mae’r cynllun yn gofyn am drwyddedu eiddo rhent preifat os oes tri neu fwy o bobl nad ydynt yn perthyn i’w gilydd yn ffurfio mwy na dwy aelwyd yn yr un adeilad.
Darllenwch am y mathau y eiddo y mae angen trwydded ar eu cyfer yma
Nod y cynllun trwyddedu ychwanegol yw sicrhau bod tai Amlfeddiannaeth yn bodloni’r safonau cyfreithiol ac yn cael eu rheoli’n iawn i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles y bobl sy’n byw ynddynt.
Mae dau fath o trwyddedau tai amlfeddiannaeth yng Nghasnewydd:
- trwyddedu gorfodol, sy’n gofyn i awdurdodau lleol, drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth mwy gyda chyfleusterau a rennir ar dri neu ragor o loriau gyda phum neu ragor o bobl;
- mae trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth ychwanegol wedi galluogi Cyngor Dinas Casnewydd i drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth, nad ydynt yn dod dan y trefniant trwyddedu gorfodol
Manteision y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol
Mae’r Cyngor yn credu y bydd adnewyddu’r Cynllun Trwyddedu Tai Amlfediannaeth Ychwanegol yn:
- helpu landlordiaid, tenantiaid a’r cyhoedd trwy helpu i wella safonau tai, iechyd y cyhoedd a lles;
- gostwng nifer y cwynion ynghylch safonau tai gwael, sŵn, ysbwriel, gerddi wedi gor-dyfu, llygotach a phlâu;
- cael gwared ar landlordiaid anaddas e.e. y rhai y mae ganddynt gofnod troseddol neu hanes gwael fel landlord;
- galluogi’r Cyngor i gyfeirio adnoddau at fynd i’r afael â’r eiddo mwyaf trafferthus ac sy’n peri'r risg mwyaf;
- gwella lefelau cydymffurfio o ran gwastraff ac ailgylchu;
- rhoi canllaw i landlordiaid am y safonau cyfreithiol gofynnol;
- rhoi hyder i denantiaid ac annog pobl i ddewis llety mewn Tai Amlfeddiannaeth trwyddedig;
- cynnal archwiliadau rheolaidd ar Dai Amlfeddiannaeth gan swyddogion y cyngor;
- rhoi canlyniadau gwell o ran rheoleiddio a rheoli tai rhent.
Ymgynghoriad
Cyn cwblhau’r holiadur, darllenwch Ddogfen Adolygiad a Chynnig Trwyddedu Ychwanegol (pdf)
Cymryd rhan yn ymgynghoriad y cynllun Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth Ychwanegol
TRA92841 23/10/2018