Dynodwyd Beechwood yn ardal gadwraeth ar 15 Mawrth 1995. Parcdir cyhoeddus ydyw yn bennaf dan berchnogaeth Cyngor Dinas Casnewydd, ac fe’i lleolir rhyw 2.5 kilometr i’r dwyrain o Ganol Dinas Casnewydd.
Lawrlwythwo cynlun o ardal gadwraeth Beechwood (pdf)
Mae Tŷ Beechwood yn adeilad rhestredig gradd II oherwydd ei ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig, ac mae’r parc ei hun hefyd yn rhestredig gradd II ar Gofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig ICOMOS / Cadw.
Tŷ Beechwood
Mae Tŷ Beechwood yng nghanol y parc. Plasty diwydiannwr o ganol oes Fictoria ydyw sydd wedi cael ei adnewyddu’n helaeth gan y Cyngor. Safai’r tŷ ar frig y parc serth ac mae iddo olygfeydd ardderchog o Gasnewydd, ardal y dociau a Môr Hafren.
Parc Beechwood
Mae arddull y parc yn debyg i Barc Belle Vue ar ochr orllewinol y ddinas a gafodd ei ddylunio gan Thomas Mawson.
Mae’n debygol iawn y gallai Mawson fod wedi bod yn rhan o gynllunio Parc Beechwood, yn enwedig am iddo wneud gwaith i nifer o gynhyrchwyr tybaco ar y pryd.
Mae’r rhan fwyaf o’r parc wedi’i threfnu’n anffurfiol gyda phorfa bryniog agored a choed addurnol ar eu pen eu hunain. Mae amryw nodweddion mwy diddorol, megis terasau, dreifiau a ffynhonnau dŵr addurnol gan gynnwys ceunant nodedig â chreigiau, pyllau a rhaeadrau.
Yn ffinio’r parc y mae’r rheiliau haearn gwreiddiol ac mae ganddo gatiau i bob tramwyfa.
Erbyn heddiw, mae tai’n amgylchynu’r parc – Christchurch Road tua’r gogledd, Beechwood Road dua’r dwyrain, Clevedon Road, Tennyson Road a Swinburne Close tua’r gorllewin a’r Chepstow Road prysur (A48) tua’r de.
Ond o fewn y parc, prin y sylweddolir ar bresenoldeb y ddinas o’i amgylch ac mae’r golygfeydd panoramig yn galluogi’r ymwelydd i anghofio am amgylchedd prysur y ddinas gerllaw.
Cysylltu
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y swyddog cadwraeth.