Dynodwyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn ardal gadwraeth ar 21 Ionawr 1998 ac mae’n cynnwys rhan o’r rhwydwaith camlesi dros ddwy fraich sy’n ymestyn yn fras dros ogledd a gogledd-ddwyrain ardal Malpas Casnewydd.
Mae braich ogleddol y gamlas yn ymestyn i Aberhonddu drwy Gwmbrân, y Fenni, Crughywel a Thalybont. Mae’r fraich fyrrach a’r mwyaf dwyreiniol oedd yn ymestyn i Grymlyn ar un adeg bellach yn dod i ben i’r gogledd o Risga. Mae’r ardal gadwraeth ddynodedig yn cynnwys y rhannau hynny o’r gamlas sy’n gorwedd o fewn ffiniau Cyngor Dinas Casnewydd.
Download Lawrlwytho cynllun ardal gadwraeth CAmlas Sir Fynwy ac Aberhonddu (pdf)
Mae’r Pedwar Loc ar Ddeg yn Heneb Gofrestredig wedi’i lleoli ar fraich y Crymlyn. Mae 21 adeilad rhestredig Gradd II hefyd o fewn ffiniau’r ardal gadwraeth.
Mae’r gamlas y cyfeirir ati erbyn hyn yn Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn ddwy gamlas mewn gwirionedd.
Mae Camlas Brecknock ac Aberhonddu, a alluogwyd gan Ddeddf 1793 yn mynd o Aberhonddu i Bont-y-moel ond roedd Camlas Sir Fynwy yn defnyddio 30 o lociau eraill i gyrraedd Casnewydd.
Roedd y cychod gwaith wedi’u gwneud o bren ac roeddynt yn 65 o droedfeddi o hyd gyda thrawst o tua 9 troedfedd yn cario hyd at 25 tunnell o gargo.
Roedd Cwmni Camlas Sir Fynwy gyda’i gamlas a thramffyrdd yn gyfrifol am dwf Casnewydd, a ddaeth y porthladd glo trydydd mwyaf ym Mhrydain.
Ym 1796, dosbarthodd y cwmni 3,500 o dunellau o lo o’i warysau ar yr afon Wysg, a thyfodd hyn i 150,000 o dunellau erbyn 1809.
Roedd y gamlas wedi’i gwasanaethu gan rwydwaith o dramffyrdd a thryciau a dynnir gan geffylau. Er mai glo a haearn oedd y prif gargo, roedd y cychod hefyd yn cludo pren, calch a chynnyrch fferm.
Mae hi dal yn bosibl llywio’r gamlas o gyffordd Bont-y-moel i Aberhonddu heddiw a chaiff ei defnyddio’n rheolaidd.
Mae’r rhannau o Gasnewydd i gyffordd Bont-y-moel a Chasnewydd i Risga wedi goroesi, ond nid ydynt mewn cyflwr hawdd i’w llywio.
Mae rhannau’r gamlas o Risga i Grymlyn a Barrack Hill (Casnewydd) i Ddociau Casnewydd wedi cael eu gadael ers tro ac maent wedi’u colli gan fwyaf.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ceisio gwarchod a gwella holl adrannau’r gamlas sydd wedi goroesi o fewn yr ardal weinyddol, ac mae wedi dynodi’r adrannau hyn o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn ardal gadwraeth.
Mae strwythur adeiledig pwysig y gamlas sydd wedi goroesi yn nodwedd drawiadol yn y dirwedd a chaiff ei ddisgrifio yn un o’r camlesi golygfaol mwyaf prydferth yn y DU, sy’n mynd heibio adeiladau a strwythurau canrifoedd oed yn llawn hanes diwydiannol yn ogystal â nifer o rywogaethau a chynefinoedd, a llawer ohonynt o werth uchel o ran cadwraeth natur.
Mae’r ardal gadwraeth yn fan berffaith i fynd am dro neu gerdded hyd at 33 milltir y tu hwnt i Gasnewydd.
Rhagor o wybodaeth
Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Aberhonddu a’r Fenni
Canolfan Ymwelwyr y Pedwar Loc ar Ddeg
Cysylltu
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y swyddog cadwraeth.