Cysylltu â'r tîm cynllunio

Ysgrifennwch at:

Adfywio a Datblygu Economaidd
Cyngor Dinas Casnewydd
Y Ganolfan Ddinesig
Casnewydd
NP20 4UR

E-bost a ffôn:

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gysylltu â Chynllunio neu anfonwch neges e-bost at [email protected] i gysylltu ag aelod o'r tîm gwasanaethau cynllunio.

Mae swyddog cynllunio ar ddyletswydd ar gael ar 9.30am i 15.45pm ar ddydd Llun a 09.30am i 12:30pm ar ddydd Iau i ateb ymholiadau cynllunio cyffredinol (gweler hefyd Yn bersonol isod). Ar wythnosau gŵyl gyhoeddus a gŵyl banc, bydd swyddog cynllunio ar ddyletswydd ar gael ddydd Mawrth yn lle dydd Llun yn ystod yr un amseroedd.

Ar gyfer cais presennol, ffoniwch y swyddog achos a enwir yn eich llythyr neu gan ddefnyddio'r manylion a ddarperir ar y wefan Cynllunio ar-lein.

Ffôn (01633) 656656

Yn bersonol:

Ni ddarperir gwasanaeth dyletswydd wyneb yn wyneb ar 30 Rhagfyr 2024.

O 6 Mawrth 2023, bydd Swyddogion ar gael ar ddydd Llun rhwng 10.15am a 3.45pm ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb 45 munud yn y Llyfrgell Ganolog a’r Amgueddfa, Sgwâr John Frost, Casnewydd.

Argymhellir bod aelodau'r cyhoedd yn trefnu apwyntiadau ymlaen llaw (erbyn y dydd Iau cyn hynny) gan ddarparu manylion eu hymholiad er mwyn galluogi Swyddogion i adolygu ymlaen llaw.

Gallwch drefnu apwyntiad ymlaen llaw yma

Fodd bynnag, os oes lleoedd ar gael ar y diwrnod, bydd preswylwyr yn gallu galw i mewn a threfnu apwyntiad.