Mae ffi yn daladwy ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio, mae'r swm yn dibynnu ar y datblygiad arfaethedig.
Pennir y ffioedd gan Lywodraeth Cymru ac maent yr un fath ar gyfer pob awdurdod cynllunio yng Nghymru.
Newidiadau i ffioedd ar gyfer ceisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig
Sylwer bod Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygiad) 2020 wedi'u cymeradwyo gan y Senedd a byddant yn dod i rym ar 24 Awst 2020.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 a byddant yn cynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio gan 20%.
Rhaid anfon y ffi newydd gyda phob cais a gyflwynir ar y dyddiad hwn neu wedi hynny. Bydd rhestr ffioedd wedi'i diweddaru yn cael ei rhoi ar y wefan cyn gynted â phosibl.
Diwygiadau ar ôl cyflwyno - o 16 Mawrth 2016 mae'n ofynnol i ymgeisydd sydd wedi cyflwyno cais cynllunio mawr ac sy'n dymuno diwygio ei gynnig dalu ffi o £190 pan gaiff diwygiad ei gyflwyno.
Mae rheoliad 5 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn mewnosod rheoliad 16(A) [Ffioedd am ddiwygiadau ar ôl cyflwyno ceisiadau datblygu mawr] yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd ar gyfer Ceisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 i'w gwneud yn ofynnol i ffi o £190 gael ei thalu.
Mae talu ffi’r cais yn ofyniad statudol a rhaid ei thalu cyn i'r Cyngor wneud unrhyw waith ar eich cais.
Os na fydd y ffi angenrheidiol yn dod i law, bydd eich cais yn cael ei ddychwelyd atoch.
Sut i dalu
- drwy siec, yn daladwy i Gyngor Dinas Casnewydd,
- drwy gerdyn credyd neu ddebyd neu dros y ffôn ar (01633) 656656
- os ydych yn cyflwyno'ch cais drwy'r Pwyllgor Cynllunio, gellir gwneud taliadau fel uchod neu gan BACS:
Enw’r Banc: Santander UK
Cyfeiriad y Banc: Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid, Bootle, Glannau Mersi. L30 4GB
Enw Cyfrif: Cyfrif Casgliadau Cyngor Dinas Casnewydd
Cod Didoli: 09-07-20
Rhif Cyfrif: 05070406
Nodwch ar eich taliad y rhif porth cynllunio a roddwyd wrth gyflwyno eich cais a'ch cyfeiriad e-bost [email protected] i gadarnhau bod taliad BACS wedi'i wneud.
Wrth hawlio esemptiad o ffi cais cynllunio am waith i berson anabl, rhowch brawf o anabledd, megis copi o lythyr a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi eich bod yn gymwys i gael lwfans anabledd. Ni fydd bathodyn glas ar ei ben ei hun yn ddigon.
Ad-daliadau
Telir ad-daliadau ond pan gaiff eich cais ei ddychwelyd i chi oherwydd ei fod yn annilys.
Telir ad-daliadau ond pan gaiff eich cais ei ddychwelyd i chi oherwydd ei fod yn annilys, neu os nad yw’r ymgeisydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn gallu cytuno ar fwy o amser i benderfynu ar y cais.
Rhoddir ad-daliad 16 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau ar gyfer cais gan berchennog tŷ a 24 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau ar gyfer yr holl geisiadau eraill.
Os caiff eich cais ei wrthod neu ei dynnu yn ôl, ni chewch ad-daliad.
Mae gennych hawl i apelio am ddim i Lywodraeth Cymru yn erbyn penderfyniad y cyngor i wrthod eich cais.
TRA122664 27/07/2020