I gael trosolwg o broses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a gweithgareddau ymgysylltu cyfredol, ewch i www.newportrldp.co.uk
Ble rydyn ni nawr a ble rydyn ni'n ceisio cyrraedd?
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) ar gyfer y cyfnod 2021-2036.
Phan gaiff ei fabwysiadu bydd yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol.
Bydd y CDLlN yn cynnwys polisïau a chynigion a fydd, gyda'i gilydd, yn darparu ar gyfer anghenion a dyheadau datblygu'r ddinas yn ogystal â diogelu a gwella asedau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Casnewydd.
Mae'r Cyngor yn y camau cynnar iawn o baratoi'r CDLlN. Mae'r cyngor yn gweithio tuag at baratoi'r strategaeth a ffefrir, ond rhaid iddo yn gyntaf nodi'r twf optimaidd a'r opsiynau gofodol sydd ar gael ar gyfer y CDLlN.
Ymgynghoriad ar ddewisiadau twf a gofodol
Mae'r papur dewisiadau twf a gofodol yn cyflwyno gwahanol ddewisiadau twf ym maes tai a chyflogaeth a dewisiadau eang ar gyfer lle y gellid lleoli'r twf hwnnw (dewisiadau gofodol).
Mae’r dewisiadau twf o ran tai a chyflogaeth wedi'u nodi gan ddefnyddio ymchwil dechnegol sy'n cael ei chyflwyno ochr yn ochr â'r papur hwn.
Papur Dewisiadau Twf a Gofodol
Ymchwil Dechnegol:
Tystiolaeth Ddemograffig
Adolygiad Tir Cyflogaeth - Crynodeb Gweithredol
Adolygiad Tir Cyflogaeth - gydag atodiadau
Pwrpas yr opsiynau twf tai a chyflogaeth yw cyflwyno gwahanol raddfeydd twf a ddeilliwyd gan ddefnyddio gwahanol ddulliau neu ragdybiaethau i gael adborth i lywio'r strategaeth twf a ffefrir a fydd yn cael ei chyflawni gan y CDLlN.
Cyflwynir opsiynau gofodol gwahanol i roi syniad o sut y gellid dosbarthu twf ar draws Casnewydd, er nad oes unrhyw leoliadau penodol wedi’u hasesu ar hyn o bryd.
Ar ôl i’r rhain fynd drwy broses ymgysylltu, cânt eu defnyddio i lywio’r strategaeth a ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).
Ymynghoriad (ar gau)
Roedd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y opsiynau twf a gofodol yn rhedeg o 25 Ionawr 2023 i 8 Mawrth 2023. Mae'r cyfnod ymgynghori hwn bellach wedi dod i ben.
Bydd y sylwadau a dderbynnir o fewn y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried a byddant yn llywio’r strategaeth a ffefrir a ragwelir ddiwedd 2023.