I gael trosolwg o broses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a gweithgareddau ymgysylltu cyfredol, ewch i:
newportrldp.co.uk
Ble rydyn ni nawr a ble rydyn ni'n ceisio cyrraedd?
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) ar gyfer y cyfnod 2021-2036.
Phan gaiff ei fabwysiadu bydd yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol.
Bydd y CDLlN yn cynnwys polisïau a chynigion a fydd, gyda'i gilydd, yn darparu ar gyfer anghenion a dyheadau datblygu'r ddinas yn ogystal â diogelu a gwella asedau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Casnewydd.
Mae'r cyngor bellach wedi symud ymlaen i gam y Strategaeth a Ffefrir (Cynllun Cyn-Adneuo). Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn y broses o lunio cynllun.
Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn cynrychioli drafft rhannol o'r CDLl Newydd, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd o ymgynghoriadau blaenorol a'r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael a gasglwyd hyd yma.
Y Strategaeth a Ffefrir
Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn nodi'r materion allweddol y mae'r cynllun yn ceisio mynd i'r afael â hwy; y Weledigaeth ar gyfer y cynllun a'r amcanion ategol; y strategaeth dwf arfaethedig ar gyfer tai a thir cyflogaeth; y dull gofodol o ddarparu datblygiadau newydd; Safleoedd Allweddol y bwriedir eu datblygu; polisïau cynllunio strategol i gefnogi'r gwaith o gyflawni strategaeth y cynllun. Yn cyd-fynd â'r Strategaeth a Ffefrir mae cyfres o adroddiadau technegol ategol a thystiolaeth a ddefnyddiwyd wrth ei pharatoi.
Papur Ymgynghori ar y Strategaeth a Ffefrir
Strategaeth a Ffefrir (Fersiwn Cryno)
Y Strategaeth a Ffefrir Dweud Eich Dweud a Thaflen Cwestiynau Cyffredin
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i wneud sylwadau gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn yr Adran Ymgynghori isod.
Cychwynol Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) a Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) – adroddiad sgrinio
Mae angen Arfarniad Cynaladwyedd Integredig (ACI) ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARC) fel rhan o ddatblygiad y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLIN). Mae'r ACI yn gwerthuso'r potensial ar gyfer effeithiau cadarnhaol a negyddol yn erbyn fframwaith cynaliadwyedd.
Mae'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn asesiad o effeithiau posibl safleoedd Ewropeaidd gwarchodedig. Mae Adroddiad ACI Cychwynnol ac Adroddiad Sgrinio ACI ar gael ar gyfer sylwadau a gellir eu gweld ochr yn ochr â'r Hoff Strategaeth.
Gallwch wneud cyflwyniad a chael rhagor o wybodaeth am y Adroddiad ACI Cychwynnol ac Adroddiad Sgrinio ARhC yma.
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol (CSY)
Cynhaliwyd 'Galwad am Safleoedd Ymgeisiol' yn 2021. Yn dilyn hyn, mae'r Cyngor wedi paratoi Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol (CSY) sy'n gofnod o'r safleoedd a gyflwynwyd i'r Cyngor. Nid yw'r CSY yn cynnig dyraniadau safle ond dim ond cofnod o dir a gyflwynwyd i'r Cyngor i'w ystyried ydyw ac mae'n darparu canlyniadau ymarfer hidlo cychwynnol.
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol
Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i wneud sylwadau ar y CSY gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn yr Adran Ymgynghori isod.
Sylfaen Tystiolaeth a Dogfennau Ategol
Roedd y dogfennau a ganlyn yn Sylfaen dystiolaeth a lywiodd y Gwaith o baratoi’r Strategaeth a Ffrefrir.
Sylfaen Dystiolaeth Ranbarthol:
Astudiaeth Fwy nag Astudiaeth Cyflogaeth Leol, Ebrill 2020
Adroddiad Rhanbarthol Cam 1 yr SFCA, JBA, Tachwedd 2022
Adroddiad Rhanbarthol ar Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel, yr Ymddiriedolaeth Garbon, Rhagfyr 2020
Sylfaen Dystiolaeth Leol:
Astudiaeth Ddemograffig, Edge Analytics, Medi 2022
Adolygiad Tir Cyflogaeth, Grŵp BE, Chwefror 2022
Astudiaeth Manwerthu a Hamdden 2019, Nexus, Tachwedd 2019
Adroddiad Atodol Astudiaeth Manwerthu a Hamdden, Nexus, Gorffennaf 2023
Astudiaeth Capasiti Trefol, Lambert Hampton Smith, Ebrill 2022
Adolygiad o'r Cyflenwad Tai, Lambert Hampton Smith, Ebrill 2022
Adroddiad Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel Casnewydd, Tachwedd 2019
Asesiad Seilwaith Gwyrdd, CBA, Chwefror 2022
Adroddiad Mwynau, Mehefin 2023
Papurau Cefndir:
Adroddiad Asesu Safleoedd Posib
Papur Cefndir Newid Hinsawdd
Papur Cefndir ar Ymrwymiadau Cynllunio a Chyfleusterau Cymunedol
Papur Cefndir Tir Cyflogaeth
Papur Cefndir Perygl Llifogydd
Ffurfio Papur Cefndir y Strategaeth Twf Tai
Papur Cefndir Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth
Papur Cefndir Iechyd
Papur Cefndir Amgylchedd Hanesyddol
Papur Cefndir Cyflenwad Tai
Papur Cefndir Materion, Gweledigaeth ac Amcanion
Papur Cefndir Mwynau
Papur Cefndir Ynni Adnewyddadwy
Papur Cefndir Adwerthu a Hamdden
Papur Cefndir Asesiad Anheddiad
Papur Cefndir Asesiad Gofodol
Papur Cefndir Trafnidiaeth
Papur Cefndir Gwastraff
Cyflwyno Safle Ymgeisiol Ychwanegol
Fel rhan o'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir gellir cyflwyno cynigion Safleoedd Ymgeisiol ychwanegol i'w hystyried, fel y nodir yn Llawlyfr y Cynllun Datblygu (Mawrth 2020)
Dylid gwneud cyflwyniadau gan ddefnyddio'r Ffurflen Safleoedd Ymgeisiol, y Nodyn Canllaw a'r Fethodoleg Asesu sydd I’w gweld yma
Mae'n bwysig nodi nad yw cyflwyno Safle Ymgeisiol yn cynrychioli ymrwymiad ar ran y Cyngor i symud safleoedd ymlaen i'r CDLlN. At hynny, bydd gofyn i unrhyw gyflwyniadau a dderbynnir gynnwys lefel uwch o fanylion i gefnogi'r cynnig, gan gydnabod y dilyniant i gamau diweddarach paratoi'r CDLlN.
Ymgynghoriad (ar gau)
Roedd cyfnod ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir yn rhedeg rhwng 25 Hydref 2023 to 20 Rhagfyr 2023.
Bydd y sylwadau a dderbynnir o fewn y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried a byddant yn llywio’r Cynllun Adneuo.
Bydd cynigion Safleoedd Ymgeisiol a ddaw i law o fewn y cyfnod ymgynghori yn cael eu hystyried i'w cynnwys yn y CDLlN a disgwylir i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn ystod y cam Cynllun Adneuo.