Enwi a rhifo strydoedd
Sylwch: Gall ffioedd gynyddu ar 1 Ebrill 2024.
Datblygiadau newydd
Codir tâl o £140 am un cyfeiriad, ynghyd â £50.50 argyfer pob cyfeiriad ychwanegol. Cofrestrwch gyfeiriadau swyddogol ar gyfer:
- un neu fwy o anheddau neu unedau masnachol newydd
- newid eiddo presennol yn fflatiau neu unedau masnachol
- newid adeilad amaethyddol yn unedau preswyl neu fasnachol
- rhannu uned fasnachol bresennol yn unedau lluosog
- eiddo a rannwyd wedi'i uno'n un uned breswyl neu fasnachol
- unedau preswyl neu fasnachol eraill sydd newydd eu hadeiladu, eu hisrannu neu eu huno
- eiddo presennol heb gyfeiriad cofrestredig swyddogol
Newid enw eiddo
Codir tâl o £50.50 argyfer eiddo sy'n bodoli eisoes yn unig, gweler yr adran datblygiad newydd uchod ar gyfer eiddo sydd newydd gael ei godi neu ei addasu.
Newid enw eiddo:
- Ar gyfer eiddo sydd â chyfeiriad cofrestredig swyddogol sy'n dwyn enw yn unig
- Ar gyfer eiddo sydd â chyfeiriad cofrestredig swyddogol sy'n dwyn rhif ac enw
Ychwanegu enw at eiddo â rhif:
- Ar gyfer eiddo sydd â chyfeiriad cofrestredig swyddogol sy'n dwyn rhif yn unig
Sylwch y gellir ychwanegu enw ond y rhif fydd y prif ddynodwr.
Cadarnhau cyfeiriad
Codir tâl o £50.50 er mwyn cadarnhau cyfeiriad pan fydd anghysondebau wedi'u nodi, efallai wrth werthu eiddo.
Diwygiad i osodiad datblygiad
Codir tâl o £50.50 ar gyfer pob llain yr effeithir arni. Mae hyn ar gyfer safleoedd datblygu mawr sydd eisoes wedi'u henwi a'u rhifo ond sy'n cael eu hailgynllunio.
Cais i ailenwi stryd gan breswylwyr
Codir tâl o £140 am un cyfeiriad ynghyd â thâl o £50.50 am bob llain yr effeithir arni. Mae angen i ddwy ran o dair o breswylwyr ar y stryd gytuno i'r newid a bydd angen cyflwyno tystiolaeth o hyn gyda'r cais.
Rhaid darparu rhesymau dros y newid hefyd a rhaid i'r enw a awgrymir fodloni'r meini prawf yn y Polisi enwi a rhifo strydoedd (pdf) a bydd yn destun ymgynghoriad.
Cyfrifydd ffioedd enwi a rhifo strydoedd (pdf)