Gwrychoedd neu berthi uchel
Yn 2005, rhoddodd y llywodraeth bwerau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru a Lloegr reoli uchder gwrychoedd neu berthi sy'n effeithio ar eiddo preswyl.
Mae'r ddeddfwriaeth yn ymdrin â phob gwrych neu berth fythwyrdd a rhannol-fythwyrdd.
Pryder am wrych neu berth cymydog
Darllenwch ‘Over the Garden Hedge’ (PDF) sy'n esbonio sut i ddatrys unrhyw anghydfodau gyda'ch cymydog heb gynnwys y cyngor.
Mae'n rhaid dilyn y broses hon cyn y gallwch gwyno i'r cyngor.
Gwneud cwyn
Cyn gwneud cwyn ffurfiol i'r cyngor, darllenwch High Hedges: Complaining to the Council (PDF).
Os ydych chi eisiau parhau i wneud cwyn ffurfiol i'r cyngor, dylech lawrlwytho a llenwi'r Ffurflen Gwyno am Wrych neu Berth Uchel (PDF) gan gyfeirio at y canllawiau.
Rhaid talu ffi o £320 i wneud cwyn ffurfiol i'r cyngor.