Daw coed â llawer o fuddion, gan gynnwys gwella ymddangosiad ardal, ychwanegu bioamrywiaeth, oeri’r awyr, arafu llif y glaw mewn stormydd, cyfrannu at iechyd meddwl cadarnhaol a lleihau llygredd.
Mae ystadegau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn dangos fod pobl yn ardal Casnewydd a Sir Fynwy yn treulio llai na’r cyfartaledd cenedlaethol ar ofal iechyd, yn rhannol oherwydd y nifer fawr o goed sydd yn yr ardal sy’n hidlo llygredd, gan arwain at gyfradd is o fynediadau ysbyty oherwydd cyflyrau’r ysgyfaint a’r galon.
Yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd mae oddeutu 2 filiwn o goed a thua 200 hectar o goetiroedd.
Ein nod yw cadw coed lle bynnag y bo hynny’n bosib ac i blannu mwy er mwyn cynyddu nifer y coed yng Nghasnewydd.
Llygredd
Mae deunydd gronynnol (DG) yn cynnwys gronynnau a gaiff eu cario ar yr aer, wedi eu grwpio yn ôl maint sy’n pennu pa mor rhwydd a dwfn y cânt eu cario i’r ysgyfaint.
Nid yw DG mwy eu maint yn teithio mor ddwfn i’r ysgyfaint â gronynnau bach.
Mae peiriannau disel a llosgi tanwydd ffosil mewn pwerdai yn cyfrannu at lygredd mewn trefi a dinasoedd.
Sut y gall coed helpu
Mae coed yn tynnu DG trwy broses o ddyddodiad sych sef pan fo DG yn yr aer yn cael ei chwythu drwy’r canopi coed a glynu wrth y dail.
Mae’r DG mân yn glynu wrth yr haenen gŵyr ar ochr allanol y dail, tra bod darnau mwy eu maint yn glynu wrth yr haenen allanol ac yna’n cael eu golchi i ffwrdd gan y glaw, neu’n aros yn yr aer.
Mae astudiaethau yn trafod faint o’r DG y mae canopïau'r coed yn eu dynnu, y prif ffactorau sy’n dylanwadu ar y gyfradd ddyddodiad sych yw:
1. Crynodiad y DG - po uchaf y crynodiad, mwyaf yn byd o DG y bydd y coed yn ei dynnu
2. Cyfanswm arwynebedd y canopi y mae’r DG yn pasio drwyddo
Er nad yw coed yn cynnig ateb cyflawn i broblem llygredd aer maent yn rhan greiddiol o’r tirwedd ac yn gallu helpu i fynd i’r afael â phroblemau llygredd.
Mathau coed sy’n amsugno llygredd yn arbennig o dda yw Planwydden y Ddinas, Pisgwydden, Masarnen Siwgr, Pinwydden Ddu a Phinwydden Wyllt.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i blannu coed er mwyn cynorthwyo i leihau llygredd yn yr ardal.
Gwybodaeth bellach
The Nature Conservancy - Planting Healthy Air (pdf)
Forestry Commission – The Case for Trees (pdf)
Forestry Commission – Urban Forestry
Forestry Commission Scotland - The Benefits of Planting Trees (pdf)