Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan Gyngor Dinas Casnewydd cyn dechrau ar unrhyw waith sy’n effeithio ar goeden y mae un neu rai o’r canlynol ar waith ar ei chyfer:
Lawrlwytho’r Polisi Coed - Coed o Eiddo CDC (pdf) i gael cymorth a chyngor ynghylch coed y mae’r cyngor yn berchen arnyn nhw.
Lawrlwytho’r CCA ar Goed - Fersiwn a fabwysiadwyd wedi Ymgynghoriad - Ionawr-2017 (pdf)
Coed peryglus
Gellir dymchwel coeden sydd wedi ei diogelu, ond sy’n beryglus, heb gael caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf gan y cyngor.
Dylai perchnogion ganiatáu cyfnod rhybudd o bum niwrnod o leiaf o fwriad i ddymchwel coeden farw neu beryglus, er mwyn i ni gael cyfle i’w hastudio a chadarnhau bod angen gweithredu.
Mewn argyfwng, ffoniwch (01633) 656656 a gofyn am y tîm gwasanaethau gwyrdd.
Galllai’r cyngor erlyn perchennog os yw o’r farn ei fod wedi gweithredu heb reswm da, ac ar y perchennog y mae’r baich profi.
Pan fo coeden farw neu beryglus wedi ei dymchwel, mae angen i’r perchennog blannu coeden newydd yn yr un lle oni chytunwn nad oes angen gwneud hynny.
Coed sy’n eiddo i ac a reolir gan y cyngor
Mae’r rhain yn debygol o gynnwys coed ar ochrau heolydd, ymylon, llwybrau troed a hawliau tramwy, mewn parciau neu fannau agored, tiroedd ysgol, mynwentydd, llyfrgelloedd, rhandiroedd a safleoedd eraill mae’r cyngor yn berchen arnynt.
Coed ar eiddo preifat
Cyn gwneud unrhyw waith ar goeden ar eiddo preifat, gan gynnwys tocio, dylech wirio a oes gorchymyn cadwraeth coed neu a yw hi o fewn ardal cadwraeth ddynodedig neu a oescyfamod cyfreithiol ar waith.
Fe’ch cynghorir yn gryf i’n holi ni am gyfarwyddyd os oes gennych unrhyw amheuaeth.
Cysylltwch a Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm gwasanaethau gwyrdd.
Problemau cyffredin gyda choed
Golwg – nid ydym yn gwneud unrhyw waith tocio yn unswydd i wella golwg coed.
Yr hawl i olau – nid oes hawl statudol na chyfraith gyffredin i olau yn y DU ac ni fyddwn yn gwneud gwaith ar goed i gynyddu golau naturiol neu i leihau cysgod. Fodd bynnag, pan fo dwy neu ragor o goed bythwyrdd neu rannol fythwyrdd wedi eu plannu mewn llinell ac y gellid, o bosibl eu hystyried yn glawdd, mae’n bosibl y bydd Rhan 8 y Ddeddf Gwrth Gymdeithasol 2003 yn berthnasol.
Paneli solar – fe’ch cynghorir i ystyried coed sy’n bod eisoes a’u heffaith bosibl nawr ac yn y dyfodol wrth benderfynu a ydych am osod paneli solar.
Signal teledu neu loeren – nid oes hawl gyfreithiol i signal teledu neu loeren yn y DU ac ni fyddwn yn gwneud gwaith i goed pan effeithir ar signal neu pan gollir signal. Siaradwch gyda darparwr eich gwasanaeth am gyngor ynghylch signal wael.
Colli golygfa – nid oes hawl i olygfa heb goed yn y DU ac ni fyddwn yn gwneud gwaith ar goed yn unswydd i wella neu adfer golygfa.Rydym yn cadw’r hawl i symud coed mae’r cyngor yn berchen arnynt os gallwn ddangos y byddai hynny’n o fudd i’r tirwedd cyhoeddus.
Dail, ffrwythau, sudd, resin a malurion – mae’r rhain yn disgyn yn naturiol o goed ac ni fyddwn yn gwneud gwaith ar goed i atal hyn nac yn darparu gwasanaeth i’w symud o eiddo preifat, e.e. draeniau a gwteri.Cyfrifoldeb perchennog yr eiddo yw gwneud hyn waeth o ble y daw’r malurion.
Canghennau’n bargodi – ni fyddwn yn tocio canghennau oni bai eu bod yn gwrthdaro gydag adeilad cyfagos neu fod perygl o wrthdaro o’r fath.Mae gan berchennog neu feddiannwr tir cyffiniol hawl dan y gyfraith gyffredin i docio canghennau sy’n bargodi hyd at y ffin gyhyd ag y gwneir hyn gyda gofal a heb niwed i iechyd hir dymor y goeden. Cysylltwch â ni am gyngor cyn gweithredu. Dylid gwneud unrhyw waith:
- yn unol â BS 3889:2010 Gwaith ar Goed – Argymhellion
- ar adeg pan nad ydynt yn dod i ddail neu’n disgyn dail
- yn unol â deddfwriaeth bywyd gwyllt berthnasol
- gan gontractwr sydd â chymwysterau ac yswiriant addas
- mewn ffordd sy’n golygu bod unrhyw doriadau yn cael eu gwaredu’n gyfrifol
Cyngor pellach
Gwiriwch, wastad, fod gan unrhyw gontractwr a ddefnyddiwch i weithio ar goed yswiriant llawn yn erbyn risgiau trydydd parti.
Os gwneir gwaith ar goed heb y caniatâd angenrheidiol, bydd unrhyw gamau gorfodi a weithredir yn cael eu gweithredu yn eich erbyn chi fel perchennog y tir.
Dim ond y ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sylfaenol yn ymwneud â chadwraeth coed y mae’r wybodaeth hon yn ymwneud.
Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am Gyngor Dinas Casnewydd neu ffoniwch (01633 656656) a gofyn am y tîm gwasanaethau gwyrdd.