Cydlynydd ADY
Cydlynydd ADY neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae gan bob ysgol Cydlynydd ADY. Mewn ysgol fach gall y Pennaeth neu'r Dirprwy ymgymryd â'r rôl hon. Mewn ysgolion mwy mae'n bosib y bydd tîm ADY.
Y Cydlynydd ADY sy'n cydlynu'r cymorth Dysgu Ychwanegol o fewn yr ysgol a bydd yn cadw cofnod o'r plant sydd ag ADY ac yn monitro eu cynnydd. Byddant yn eich cynghori sut y bydd yr ysgol yn cwrdd ag anghenion eich plentyn.
Bydd y Cydlynydd ADY hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am weithredu polisi ADY yr ysgol sydd ar gael i'w weld yn yr ysgol os dymunwch.
Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd adnabod yn amserol a sicrhau darpariaeth briodol cyn gynted â phosibl ar gyfer dysgwr ag ADY. Po gyntaf y caiff camau eu cymryd y mwyaf effeithiol mae'r camau'n debygol o fod.