Adolygiadau CDU sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Rhaid i'r Awdurdod Lleol adolygu Datganiad eich plentyn o AAA / CDU o leiaf bob blwyddyn (bob chwe mis i blant dan bump oed). Gellir galw am adolygiadau cynnar neu interim os oes angen.
Cyfrifoldeb yr ysgol yw trefnu'r adolygiad blynyddol ac fel arfer mae'n cael ei chynnal yn yr ysgol. Gwahoddir pawb sy'n ymwneud â'ch plentyn i fynd yno neu i anfon sylwadau ysgrifenedig.
Bydd y cyfarfod yn gwneud y canlynol:
- ystyried cynnydd eich plentyn ac a yw'r Datganiad/CDU dal yn briodol ar gyfer anghenion eich plentyn.
- cofnodi newidiadau y mae angen eu gwneud i Ddatganiad/CDU eich plentyn.
- gosod targedau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae'n gyfle i chi a'ch plentyn rannu eich barn gyda'r Ysgol a'r ALl.
Pwy fydd yn dod i'r cyfarfod?
Bydd yr ysgol yn eich gwahodd chi, eich plentyn, pobl sydd wedi gweithio gyda'ch plentyn yn yr ysgol, unrhyw weithwyr proffesiynol sydd wedi bod yn cymryd rhan, cynrychiolydd o'r ALl ac unrhyw un arall fyddai'n gallu rhoi gwybodaeth ddefnyddiol neu gyngor yn eich barn chi neu ym marn yr ysgol. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n mynd i Adolygiad Blynyddol eich plentyn.
A fydd unrhyw waith papur?
Gofynnir i bawb a wahoddir i’r cyfarfod gan yr ysgol am adroddiad. Caiff adroddiadau eu dychwelyd i'r ysgol er mwyn i'r ysgol allu anfon copïau allan cyn y cyfarfod. Mae'n bwysig i chi lenwi'r ffurflen sy'n gofyn am eich barn a'i dychwelyd i'r ysgol. Dylid darparu barn eich plentyn hefyd os oes modd.
Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?
Caiff cynnydd eich plentyn ei drafod a rhennir gwybodaeth. Edrychir ar y Datganiad/CDU er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol. Gallwch ofyn cwestiynau neu os nad ydych yn deall unrhyw beth yn iawn gallwch ofyn am esboniad. Gofynnir i chi am eich barn. Dylai'r adolygiad ddod â detholiad clir o dargedau y gall yr ysgol a'ch plentyn weithio arnynt tan yr adolygiad nesaf.
Adborth ym mlynyddoedd 1, 5 a 9
Gelwir yr adolygiadau hyn yn adolygiadau pontio. Mae'r adolygiad ym mlwyddyn 1 yn edrych ar y newid i Gyfnod Allweddol 2. Dylai'r adolygiad ym mlwyddyn 5 gael ei gynnal yn nhymor yr hydref ac mae'n ystyried y newid i'r Ysgol Uwchradd ym mlwyddyn 7. Cynhelir yr adolygiad ym mlwyddyn 9 er mwyn cynnig argymhellion a gwneud cynlluniau ar gyfer symud eich plentyn i fywyd fel oedolyn a bydd yn cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Beth sy'n digwydd wedi'r adolygiad?
Bydd adroddiad o'r cyfarfod, sy'n crynhoi'r hyn a ddywedwyd ac sy’n cynnwys unrhyw argymhellion a wnaed yn cael eu hanfon i'r ALl, ynghyd â'r holl adroddiadau a gyflwynwyd ar gyfer yr adolygiad. Bydd pawb a aeth i'r cyfarfod yn cael copi. Os oes unrhyw newidiadau i'r Datganiad/CDU’r ALl i'w gwneud, bydd yr ALl yn gwneud y newidiadau hyn ac yn anfon Datganiad/CDU diwygiedig atoch. Os bydd newidiadau i'w gwneud ar gyfer CDU mewn ysgol bydd yr ysgol yn gwneud y gwelliannau angenrheidiol.