SenCom
Mae’r timau yn SenCom yn darparu amrywiaeth eang o strategaethau cyngor ac ymyrraeth gan gynnwys dysgu. Rydym yn sefydliad sydd wedi ei ganoli ar y person ac mae ein lefelau ymyrraeth yn cyd-fynd ag anghenion newidiol plant a phobl ifanc unigol.
Fe’n lleolir gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac rydym yn gweithio’n rhanbarthol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, colegau a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar.
Ein nod yw bod yn bartner gyda theuluoedd ac ysgolion i gynnwys plant yn llwyddiannus ym mhob agwedd o fywyd ysgol a sicrhau bod eu taith dysgu heb rwystrau i gynnydd.
Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys tri thîm o dan arweiniad Pennaeth Gwasanaeth.
ComIT (Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu)
Mae ComIT yn wasanaeth ysgol sy'n gweithio ar draws pum awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru i alluogi ysgolion i nodi a chefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (ALlICh).
Mae sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn sail i bob agwedd ar ddysgu a datblygu, ac mae ymchwil yn dangos bod nodi ALlICh a darparu ymyrraeth yn gynnar yn gallu gwella canlyniadau academaidd a bywyd plant a phobl ifanc yn sylweddol.
Mae ComIT yn gweithio mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd (ThILl) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) ac mae'r tîm yn cynnwys Pennaeth Gwasanaeth, Athrawon Cynghori, Therapyddion Iaith a Lleferydd BIPAB a Chynorthwywyr Addysgu Arbenigol.
Mae ComIT yn darparu ystod eang o wybodaeth, ffyrdd o godi ymwybyddiaeth a hyfforddiant, yn ogystal â chymorth uniongyrchol i ddisgyblion, trwy ymateb graddedig. Mae Cynorthwywyr Addysgu Arbenigol yn gweithio gyda disgyblion unigol a grwpiau bach mewn ysgolion ac yn cefnogi staff ysgol i ddarparu sesiynau dilynol gan ddefnyddio strategaethau ac adnoddau dysgu a argymhellir.
Sut mae cais am gefnogaeth yn cael ei wneud?
Mae gan bob Awdurdod Lleol Weithiwr Proffesiynol Arweiniol ComIT a enwir sy'n ymgynghori â Phennaeth Gwasanaeth ComIT i nodi ysgolion ar gyfer ymyrraeth, hyfforddiant a chymorth ComIT. Mae ceisiadau am gymorth i ddisgyblion yn cael eu derbyn yn uniongyrchol gan ysgolion.
Os oes gennych bryderon am sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn, cysylltwch â'r ysgol a siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY). Gall staff ysgol ofyn am gyngor gan eu Gweithiwr Proffesiynol Arweiniol ComIT ac anfon Cais am Gyngor (CAG) yn uniongyrchol i ComIT.
Gwasanaeth cymorth i blant a phobl ifanc sy’n f/Fyddar
Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc f/Fyddar yn cynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc sydd â lefel fyddardod a nodwyd i gyflawni eu llawn botensial ac ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd. Mae’;r gwasanaeth yn cynorthwyo cynhwysiant llwyddiannus mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion. Mae'r tîm yn cynnwys Athrawon cymwys Plant a Phobl Ifanc Byddar a Chynorthwywyr Addysgu Arbenigol.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth i Blant a Phobl Ifanc f/Fyddar yn defnyddio Fframwaith Cymhwysedd y Bartneriaeth Amhariadau Symhwyraidd Genedlaethol, offeryn ar gyfer Gwasanaethau Synhwyraidd sydd â’r nod o arwain y broses o wneud penderfyniadau wrth ddyrannu cymorth i blant a phobl ifanc unigol. Mae cymorth y gwasanaeth yn ddeinamig ac yn annog cysylltiadau agos â'r cartref, yr ysgol ac asiantaethau eraill. Ein nod yw meithrin gallu mewn ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion a darparu cymorth â ffocws mewn ymateb i anghenion newidiol plant a phobl ifanc.
Sut mae atgyfeiriad yn cael ei wneud?
Mae mwyafrif helaeth y plant yn cael eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth gan wasanaethau Iechyd, ond rydym hefyd yn gallu rhoi cyngor a chyfeirio rhieni neu weithwyr proffesiynol sydd ag unrhyw bryderon am glyw plentyn neu berson ifanc. Yn dilyn atgyfeirio, caiff gwybodaeth ei rhannu â'r ysgol. Gellir trefnu ymweliad â’r cartref a/neu’r ysgol i asesu'r disgybl ac i gasglu rhagor o wybodaeth.
Gwasanaeth Nam ar y Golwg
Bwriad y Gwasanaeth Nam ar y Golwg (GNG) yw sicrhau bod dewis yn cael ei gynnig i blant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr. Mae arbenigedd ac adnoddau ar gael i ysgolion i hwyluso mynediad cynhwysol llawn i ddysgu. Mae sgiliau byw’n annibynnol a mudoledd yn cael eu dysgu gan arbenigwyr cymhwysiad GNG. Sefydlir dulliau cydweithredol i gefnogi a diwallu pob angen.
Gall y GNG ddarparu amrywiaeth o wasanaethau mewn perthynas ag anghenion unigol. Rydym yn cydweithio gyda plant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg neu amlsynhwyraidd, rhieni, ysgolion, gwasanaethau addysgol/gyrfaoedd ac asiantaethau meddygol i fodloni anghenion unigol fel y’u nodir trwy’r broses asesu.
Sut caiff atgyfeiriad ei wneud?
Rydym yn croesawu ymholiadau ac atgyfeiriadau gan unrhyw un sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc a allai fod â phryderon ynghylch amhariad posibl ar y golwg neu amhariad amlsynnwyr posibl.
Cysylltwch â'r gwasanaeth a bydd aelod o staff yn gallu eich helpu.
Gwnewch atgyfeiriad ar-lein trwy wefan cyngor Torfaen.
Cyswllt
Brecon House, William Brown Close, Parc Busnes Llantarnam, Cwmbrân, Torfaen NP44 3AB.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 01633 648888.