Diwrnodau agored
Os hoffech wybod mwy am addysg i oedolion, bydd y gwasanaeth dysgu cymunedol yn cynnal sesiynau gwybodaeth yng Nghanolfan Dysgu a Llyfrgell Gymunedol Sain Silian yr haf hwn.
Bydd staff wrth law i drafod y cyrsiau sydd ar gael sy'n cynnwys TGAU Saesneg a mathemateg, cynorthwyydd addysgu, sgiliau digidol a TGCh, ICDL, sgiliau byw'n annibynnol, sgiliau hanfodol, Iaith Arwyddion Prydain, diogelwch bwyd, cymorth cyntaf ar gyfer iechyd meddwl, llythrennedd carbon a Sbaeneg.
Nid oes angen trefnu apwyntiad, galwch draw ar un o'r dyddiau canlynol:
- Dydd Iau 22 Awst, 9am – 7pm
- • Dydd Llun 2 Medi, 11am - 7pm
Consesiynau
Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar brisiau cyrsiau.
Sylwch fod amodau’n berthnasol a bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth eich bod yn derbyn budd-daliadau y mae’n rhaid iddi fod yn ddilys ar y diwrnod y byddwch yn cofrestru ar y cwrs.
Siaradwch ag aelod o staff neu anfonwch e-bost i [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.
Polisi Ad-dalu
Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd yr hawl i ganslo neu gyfuno cyrsiau. Os yw hyn yn angenrheidiol, mae’n bosib y gellir cynnig ad-daliad llawn neu rannol.
Ni roddir ad-daliadau am unrhyw reswm arall.
Anabledd
Rhowch wybod i ni, cyn cofrestru, os oes gennych anabledd a allai effeithio ar gyfranogiad yn eich dewis gwrs, fel y gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion.
Ymrestru
I fod yn gymwys i gofrestru, rhaid bod myfyrwyr yn 16 oed neu’n hŷn ar ddechrau’r flwyddyn academaidd (1 Medi).
I holi am gwrs neu i gofrestru ar gwrs e-bostiwch: [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.