Multiply
Gwneud Mathemateg Bob Dydd yn Haws
Yn y cartref neu'r gwaith, nid oes angen i rifau fod yn broblem. Mae Lluosi yn rhaglen newydd o weithgareddau ymarferol am ddim i oedolion sydd â'r nod o hybu eich sgiliau mathemateg.
P'un ag ydych eisiau helpu eich plant gyda'u gwaith cartref, cyfrifo cyllideb eich teulu, cynilo ar gyfer gwyliau neu uwchsgilio i roi hwb i'ch gyrfa, gall Lluosi eich helpu i fynd i'r afael â’r heriau Mathemateg bob dydd hynny.
I bwy mae’r rhaglen?
Mae ein cyrsiau Lluosi ar gyfer unrhyw un sy'n 19 oed neu'n hŷn sydd am gynyddu eu hyder mewn Mathemateg ac sy'n byw yng Nghasnewydd neu'n gweithio yng Nghasnewydd. Mae’r sesiynau, sy’n cael eu cyflwyno gan Gyngor Dinas Casnewydd a sefydliadau partner, wedi’u dylunio i fod yn hyblyg, yn hwyl ac yn seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn.
Bydd rhestr lawn o gyrsiau a gweithgareddau cymorth yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn fuan ynghyd â manylion y lleoliadau, amseroedd a dyddiadau. Yn y cyfamser, os hoffech glywed gan aelod o dîm Multiply, e-bost â [email protected].
Peidiwch â gadael i rifau eich dal yn ôl!
Ariennir y prosiect hwn trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae wedi ei gynllunio gan Lywodraeth y DU fel rhan o’i rhaglen o fentrau Ffyniant Bro.