GEMS
Mae Gwasanaeth Lleiafrifoedd Addysg Gwent GALlEG yn wasanaeth rhanbarthol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Nod y gwasanaeth yw cefnogi ysgolion drwy ddarparu dysgu proffesiynol, cyngor a chymorth iaith i ddisgyblion nad y Gymraeg neu’r Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Gweledigaeth GALlEG yw: 'Galluogi pob plentyn neu berson ifanc amlieithog i ffynnu mewn amgylchedd addysgol cynhwysol ac uchelgeisiol'.
Mae GEMS yn darparu:
- cyngor, cymorth ac arweiniad ar gydraddoldeb hiliol i ysgolion a chyrff llywodraethu
- asesiadau dwyieithog i sefydlu gofynion am gymorth ieithyddol
- ymweliadau â'r cartref i sicrhau bod cyfathrebu da'n cael ei sefydlu rhwng rhieni a'r ysgol. Mae gwybodaeth hanfodol am yr ysgol yn cael ei throsglwyddo i rieni yn iaith y cartref a chaiff eu pryderon a'u cwestiynau eu trosglwyddo'n ôl i'r ysgol.
Nid gwasanaeth cyfieithu neu ddehongli yw GALlEG.
Lawrlwythwch a darllenwch hysbysiad preifatrwydd GALIEG (pdf)
Cysylltu
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch (01633) 851504.