Derbyniadau, Trochi a Thrafnidiaeth

Derbyniadau a Throchi 

Mae rhai teuluoedd yn dewis addysg Gymraeg i'w plant yn ddiweddarach yn eu bywydau ysgol, ac rydym yma i helpu fel bod sgiliau iaith y plant hyn yn debyg i blant eraill o'u hoedran. 

Rydym yn cynnig hyn drwy ddarpariaeth drochi bwrpasol sydd ar gael yn y sectorau cynradd ac uwchradd.  

Mae ceisiadau derbyn i ysgolion Cymraeg yn llwyddiannus lle bynnag y bo modd. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am dderbyniadau ar ein tudalen derbyniadau i ysgolion.

Gallwch ddewis trosglwyddo eich plentyn o un ysgol i'r llall ar unrhyw adeg o'u haddysg, ac mae hyn yn cynnwys eu trosglwyddo o ysgol Saesneg ei chyfrwng i ysgol Gymraeg.

Lle bo hyn yn gofyn am newid yn y ddarpariaeth ieithyddol, bydd y Tîm Derbyn i Ysgolion yn eich cynghori i gysylltu â Phennaeth yr ysgol berthnasol er mwyn gallu asesu unrhyw anghenion cymorth trochi. 

Byddant hefyd yn cysylltu â'r Pennaeth perthnasol i'w hysbysu bod cais wedi dod i law a'i fod yn yr arfaeth. 

Unwaith y byddwch yn cadarnhau eich bod yn dymuno bwrw ymlaen, bydd prosesu'n mynd rhagddo fel arfer a lle yn cael ei gynnig yn yr hyn a fydd yn dod yn ysgol "letyol". 

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal uned drochi gynradd Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli, gan gefnogi pob disgybl o oedran cynradd sy'n paratoi ar gyfer addysg Gymraeg o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6. Mae'r ysgol yn cynnal ac yn darparu'r gwasanaeth ar ran yr ysgolion cynradd o fewn y clwstwr Cymraeg. 

Mae cymorth i ddisgyblion oedran uwchradd ar gael yn uniongyrchol drwy Ysgol Gyfun Gwent Is Coed. 

Bydd disgyblion oed cynradd yn treulio eu tymor cyntaf yn yr uned drochi yn Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli, mewn trefniant y cytunwyd arno rhwng Prifathrawon eu hysgol a enwir ac Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. 

Fodd bynnag, bydd trefniant allgymorth ar waith sy'n galluogi'r disgybl i fynychu ei ysgol a enwir ar ddiwrnod penodol bob wythnos fel ei fod yn gallu treulio amser yn ei ysgol newydd gyda'i gyfoedion. 

Bydd y trefniant allgymorth hwn hefyd yn galluogi staff i hwyluso gwiriadau cynnydd ar ddisgyblion trochi blaenorol. Mae disgyblion oedran uwchradd yn defnyddio cyfleusterau trochi gyda phontio graddol i ddosbarthiadau prif ffrwd wrth i drosglwyddiad iaith fynd rhagddo.   

Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol

Darperir trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion oed cynradd sy’n byw 2 filltir neu fwy o’u dalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael iddynt, ac ar gyfer disgyblion oed uwchradd (hyd at ddiwedd Blwyddyn 11) sy’n byw 3 milltir neu fwy o’u dalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael iddynt.

Os asesir bod disgybl oedran cynradd yn byw dwy filltir neu fwy o Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli, bydd yn derbyn cludiant am ddim i'r uned drochi.  Fodd bynnag, efallai na fydd y trefniant hwn yn berthnasol ar y diwrnod allgymorth dynodedig.