Addysg Gymraeg
Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, ac mae plant yng Nghasnewydd yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg a Saesneg.
Mae'r plant yn ein hysgolion Cymraeg yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg, ac yn astudio'r ddwy iaith.
Nid yw dros 95% o rieni plant sy'n mynychu ein hysgolion Cymraeg yn siarad Cymraeg eu hunain, ac mae ein hysgolion yn cefnogi hyn drwy ddarparu'r holl wybodaeth yn ddwyieithog.
Mae gennym bedair ysgol gynradd Gymraeg yma yng Nghasnewydd - pob un ag uned feithrin ynghlwm. Mae tair o'r ysgolion hyn yn gweithredu o leoliadau sefydledig ym Mrynglas, Ringland a Betws; agorwyd ein pedwaredd ysgol ym mis Medi 2021 ac mae wedi'i lleoli dros dro yng Nghaerllion, ond yn symud i gartref parhaol ym Mhilgwenlli ym mis Medi 2024.
Agorwyd Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, ein hysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf, ym mis Medi 2016 ac o fis Medi 2022 bydd lle i ddisgyblion o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 13.
Bydd Canolfan Adnoddau Dysgu ar gael yn Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli pan fydd yn symud i'w chartref parhaol ym mis Medi 2024, gan gynnig darpariaeth Gymraeg bwrpasol i'n plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghasnewydd am y tro cyntaf erioed.
Gwyliwch Rhieni Casnewydd yn siarad am eu profiad o addysg ddwyieithog ar YouTube.
Lawrlwythwch ein llyfryn gwybodaeth am addysg Gymraeg (pdf).
Mae fersiynau o'r llyfryn gwybodaeth mewn ieithoedd eraill ar gael ar gais.