Academi Ieuenctid Casnewydd
Cyflawnwch eich uchelgais gyrfa gan ennill cymwysterau proffesiynol a chael hyd at £60 yr wythnos.
Mae Academi Ieuenctid Casnewydd yn ddarpariaeth ysbrydoledig sy'n newid bywydau pobl ifanc Casnewydd rhwng 16 a 19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae'r academi yn un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf Casnewydd gyda dros chwe blynedd o brofiad yn darparu hyfforddiant i bobl ifanc ac yn eu cefnogi i gyflogaeth ac addysg uwch/addysg bellach.
Ymunwch ag Academi Ieuenctid Casnewydd i ennill hyd at £60 yr wythnos, a chael cerdyn disgownt i fyfyrwyr.
Mae'r tîm yn teimlo’n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc drwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu rhagorol. Drwy offer addysgol arloesol sy'n arwain y sector a rhaglenni cyflenwi cyffrous, mae’n darparu cyfleoedd i holl bobl ifanc y ddinas ynghyd â llwybr clir at gynnydd.
Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn ffordd wych o roi hwb i'ch hyder a chael blas ar waith y gallai fod gennych ddiddordeb ynddo. Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi cyflogedig gyda chyflogwyr yn eich ardal.
Mae'r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a'i nod yw rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i gael swydd neu symud ymlaen i ddysgu pellach neu brentisiaethau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, aeth 80% o'r myfyrwyr sydd wedi gadael yr academi ymlaen i addysg bellach neu gyflogaeth – y rhan fwyaf ohonynt yn gadael yr ysgol ac yn ymuno â ni heb unrhyw gymwysterau ffurfiol.
Gwyliwch ein ffilm am brofiad Liam gydag Academi Ieuenctid Casnewydd:
Mae Academi Ieuenctid Casnewydd yn cynnig llwybrau gyrfaoedd mewn:
- Gwallt a Harddwch
- Adeiladu
- Busnes a Gweinyddu
- Chwaraeon a Gwaith Ieuenctid
- Peirianneg Modurol
- Gofal
- Gofal Anifeiliaid
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Manwerthu
- Lletygarwch ac Arlwyo
- TG, STEM a Chodio
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru:
cysylltwch neu tecstio â 07866 544272
neu e-bostiwch [email protected]