Sefydlu Ffederasiwn Ysgol yn ymgorffori Ysgol Gynradd Eveswell ac Ysgol Gynradd Somerton
Mae cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Eveswell ac Ysgol Gynradd Somerton, ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, yn cynnig defnyddio’r pwerau a roddir iddynt dan Reoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Partneriaeth Ysgolion Cynradd Eveswell a Somerton.
Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)
Lawrlwythwch yr Asesiad o Degwch ac Effaith ar Gydraddoldeb (pdf)
Ymgynghoriad
Digwyddodd yr ymgynghoriad rhwng 3 Mehefin a 14 Gorffennaf 2019
Mae Rheoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn amlinellu’r gofyniad statudol i geisio barn rhanddeiliaid ar gynigion ffedereiddio.
At y diben hwn, diffinnir rhanddeiliaid priodol fel a ganlyn:
- staff y ddwy ysgol
- rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid disgyblion sy’n mynychu’r ddwy ysgol
- y disgyblion sy’n mynd i’r ddwy ysgol (drwy law’r ddau gyngor ysgol)
- undebau staff addysgu a staff cymorth yn cynrychioli athrawon a staff y ddwy ysgol
- aelodau ward lleol y ddwy ysgol
- penaethiaid bob ysgol yn ardaloedd clwstwr Llanwern a Llyswyry
- Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De Ddwyrain Cymru
- Estyn
Lawrlwytho’r llythyr i randdeiliaid (pdf)
Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori (pdf)
Lawrlwytho’r pro-fforma ymateb i ymgynghoriad (pdf)
Roedd y wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefannau Ysgol Gynradd Eveswell ac Ysgol Gynradd Somerton, gyda chopïau caled ar gael i’w harchwilio yn y ddwy ysgol.
Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori rhwng 3 Mehefin a 14 Gorffennaf 2019.
Roedd cyngor y broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gafodd eu recordio a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori (pdf).
Caiff yr adroddiad ei ystyried gan y cyrff llywodraethu a’r cyngor i benderfynu a ddylid gweithredu’r cyngor neu beidio.
Y cynnig
Mae cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Eveswell ac Ysgol Gynradd Somerton, ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, yn cynnig defnyddio’r pwerau a roddir iddynt dan Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Partneriaeth Ysgolion Cynradd Eveswell a Somerton (y Ffederasiwn).
Mae’r term ‘ffederasiwn’ yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol lle mae’r ysgolion ynghlwm yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth ffurfiol gan rannu’r trefniadau llywodraethiant dan un corff llywodraethu.
Bydd y cyrff llywodraethu presennol yn cael eu dirymu a’u disodli gan gorff llywodraethu newydd gyda goruchwyliaeth strategol o’r ddwy ysgol.
Mae’r ddwy ysgol wedi gweithio ar y cyd ers mis Medi 2016 ac wedi rhannu un pennaeth gweithredol ers hynny. Mae’r cyrff llywodraethu wedi ymgynghori â’r cyngor ac mae bob parti’n cefnogi’r cynnig.
Nod y Ffederasiwn yw i’r ddwy ysgol weithio mewn partneriaeth i:
- ddatblygu’r arfer rhagorol a rennir sy’n gwarantu profiadau ardderchog a mwy o gyfleoedd i ddisgyblion a staff
- datblygu’r nodau cyffredin a dulliau dysgu ac addysgu adfyfyriol fydd yn sicrhau bod y ddwy gymuned yn elwa ar addysg o safon
Bydd hyn yn sicrhau deilliannau cadarnhaol sylweddol a safonau gwell i gymunedau’r ddwy ysgol.
Enw arfaethedig y Ffederasiwn yw Partneriaeth Ysgolion Cynradd Eveswell a Somerton.
Os caiff y cynnig ei gymeradwyo, bydd y ffederasiwn yn dechrau ar 1 Ionawr 2020.
Penderfyniad terfynol
Ystyriodd y ddau gorff llywodraethu yr adroddiad ymgynghori gan gytuno eu bod yn dymuno symud ymlaen gyda’r cynnig.
O ganlyniad, cyfeiriwyd y penderfyniad terfynol i Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a Sgiliau sydd wedi cytuno y dylai’r cynnig gael ei weithredu fel yr amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori.
Bellach caiff Offeryn Llywodraeth (dogfen gyfreithiol sy’n cofnodi cyfansoddiad corff llywodraethu) ei ddatblygu ar gyfer yr corff llywodraethu wedi’i ffedereiddio, er mwyn ethol a phenodi llywodraethwyr fel sy’n briodol.
Bydd hyn yn cynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd y ffederasiwn.
Bydd y ffederasiwn a adwaenir fel Partneriaeth Ysgolion Cynradd Eveswell a Somerton yn cael ei sefydlu’n ffurfiol ac yn weithredol o 1 Ionawr 2020, pan fydd cyrff llywodraethu’r ddwy ysgol unigol yn cael eu dirymu.
Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf)
Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)
Lawrlwythwch y llythyr hysbysu terfynol am y penderfyniad (pdf)
TRA111518 19/11/2019