Y cynnig
Cyflwynodd cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Gaer ac Ysgol Gynradd Maesglas, ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, gynnig i ddefnyddio’r pwerau a roddir iddynt dan Reoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Partneriaeth Ysgolion Cynradd Gaer a Maesglas.
Mae’r term ‘ffederasiwn’ yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol lle mae’r ysgolion ynghlwm yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth ffurfiol gan rannu’r trefniadau llywodraethiant dan un corff llywodraethu.
Mae’r ddwy ysgol wedi gweithio ar y cyd ers mis Ebrill 2019 pan benodwyd Pennaeth profiadol Ysgol Gynradd Gaer hefyd yn Bennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Maesglas, ar sail dros dro yn unig i ddechrau tan fis Awst 2021. Mae'r trefniant hwn wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael effaith gadarnhaol ar y ddwy ysgol. Mae hyn wedi arwain at y ddau gorff llywodraethu yn mynegi awydd i ffurfioli'r berthynas rhwng y ddwy ysgol.
Nod y Ffederasiwn yw i’r ddwy ysgol weithio mewn partneriaeth i:
- ddatblygu’r arfer rhagorol a rennir sy’n gwarantu profiadau ardderchog a mwy o gyfleoedd i ddisgyblion a staff
- datblygu’r nodau cyffredin a dulliau dysgu ac addysgu adfyfyriol fydd yn sicrhau bod y ddwy gymuned yn elwa ar addysg o safon.
Bydd hyn yn sicrhau deilliannau cadarnhaol sylweddol a safonau gwell i gymunedau’r ddwy ysgol.
Ymgynghoriad
Mae Reoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn amlinellu’r gofyniad statudol i geisio barn rhanddeiliaid ar gynigion ffedereiddio.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 21 Mehefin ac 1 Awst 2021. Manylir ar ganlyniadau'r ymgynghoriad yn yr adroddiad ymgynghori (pdf).
At y diben hwn, diffinnir rhanddeiliaid priodol fel a ganlyn:
- staff y ddwy ysgol
- rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid disgyblion sy’n mynychu’r ddwy ysgol
- y disgyblion sy’n mynychu’r ddwy ysgol (drwy law’r ddau gyngor ysgol)
- undebau staff addysgu a staff cymorth sy’n cynrychioli athrawon a staff y ddwy ysgol
- aelodau ward lleol y ddwy ysgol
- penaethiaid pob ysgol yn ardal clwstwr Ysgol John Frost
- Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De-ddwyrain Cymru
- Estyn
Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori (pdf)
Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori (Fersiwn hawdd ei darllen) (pdf)
Roedd y wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefannau Ysgol Gynradd Gaer ac Ysgol Gynradd Maesglas, gyda chopïau caled ar gael i’w harchwilio yn y ddwy ysgol.
Penderfyniad terfynol
Ystyriodd y ddau gorff llywodraethu yr adroddiad ymgynghori (pdf) gan gytuno eu bod yn dymuno symud ymlaen gyda’r cynnig.
O ganlyniad, cyfeiriwyd y penderfyniad terfynol i Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a Sgiliau sydd wedi cytuno y dylai’r cynnig gael ei weithredu fel yr amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori.
Bellach caiff Offeryn Llywodraeth (dogfen gyfreithiol sy’n cofnodi cyfansoddiad corff llywodraethu) ei ddatblygu ar gyfer y corff llywodraethu wedi’i ffedereiddio, er mwyn ethol a phenodi llywodraethwyr fel sy’n briodol.
Bydd hyn yn cynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd y ffederasiwn.
Bydd y ffederasiwn a adwaenir fel Partneriaeth Ysgolion Cynradd y Gaer a Maesglas yn cael ei sefydlu’n ffurfiol ac yn weithredol o 1 Ionawr 2022, pan fydd cyrff llywodraethu’r ddwy ysgol unigol yn cael eu dirymu.
Lawrlwytho’r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)
Lawrlwytho’r llythyr hysbysu terfynol am y penderfyniad (pdf)