Fel rhan o'i Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, cyflwynodd Cyngor Dinas Casnewydd Gynllun Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru yn cynnig y dylai 10 o ysgolion cynradd y cyngor gael eu darpariaeth feithrin eu hunain.
Yn dilyn ymgynghoriad, penderfynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc symud i gyhoeddi Hysbysiadau Statudol ar gyfer y cynnig i sefydlu dosbarthiadau meithrin yn ysgolion cynradd Clytha, Glasllwch, High Cross, Millbrook, Monnow, Mount Pleasant, Malpas Park a Phentrepoeth.
Ym mis Medi 2014 agorodd dosbarthiadau meithrin yng Nghlytha, High Cross, Millbrook a Monnow.
Ym mis Medi 2015 agorodd dosbarthiadau meithrin newydd yn Ysgolion Cynradd Glasllwch a Malpas Park.
Ym mis Medi 2016 agorodd dosbarthiadau meithrin newydd yn Ysgolion Gynradd Mount Pleasant a Marshfield.
Mae'r cynnig ar gyfer Ysgol Gynradd Pentrepoeth wedi cael ei addasu a bydd nawr yn cael ei roi ar waith ym mis Ionawr 2018.
Bydd y dosbarth meithrin newydd yn cael ei sefydlu o'r dyddiad hwn ac yn cynnwys darpariaeth ar gyfer 16 lle cyfwerth ag amser llawn.
Dogfennau
Darllenwch Adroddiad Terfynol yr Aelod Cabinet a'r Hysbysiad Statudol ar gyfer ysgolion cynradd Clytha, Glasllwch, High Cross, Mount Pleasant a Malpas Park (pdf)
Darllenwch yr Hysbysiad Statudol ar gyfer Ysgol Gynradd Gatholig St Michael
Darllenwch yr Amserlen Benderfyniadau (pdf)
Darllenwch y Cam Ymgynghori Ffurfiol - Rhaglen Ad-drefnu Addysg Feithrin (pdf)
Darllenwch Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc – Darpariaeth Addysg Feithrin (pdf)
Darllenwch Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc – Darpariaeth Addysg Feithrin ar Safleoedd Cynradd Catholig (pdf)